Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi rhybuddio bod cynnydd yn nifer yr achosion o danau mewn cartrefi ers dechrau’r cyfyngiadau coronafeirws.
Daw’r rhybuddion wedi i’r Gwasanaeth Tân ddweud eu bod yn cael eu galw i hyd at bum achos yr wythnos gan fod pobl yn treulio mwy o amser gartref ac yn coginio’n amlach. Yn ôl Dean Loader, Pennaeth Diogelwch Cymunedol Gwasanaeth Tân De Cymru, mae llawer o’r tanau yn rhai y gellid bod wedi eu hosgoi.
Mae’r ffigurau diweddaraf wedi datgelu bod tanau sy’n dechrau yn y gegin ar eu lefel uchaf yn ne Cymru dros y tair blynedd diwethaf, a choginio yw’r achos mwyaf o danau damweiniol yn y cartref.
“Gofal ychwanegol”
Yn ystod y cyfyngiadau coronafeirws rhwng mis Ebrill a Mai, coginio sydd wedi achosi bron i hanner y tanau. Bu cynnydd sylweddol hefyd mewn tanau sy’n cael eu hachosi gan sosbenni sglodion a ffrïwyr gyda rhai digwyddiadau’n achosi “canlyniadau erchyll”.
Er bod y Gwasanaeth Tân yn cydnabod fod amodau yn y cartref bellach yn wahanol, gyda rhai yn gweithio o gartref neu yn gorfod addysgu eu plant o’u cartref, maen nhw’n pwysleisio fod yn rhaid canolbwyntio ar yr hyn rydych yn ei goginio er mwyn osgoi achosi tanau.
“Rydyn ni’n apelio ar y cyhoedd yn ystod y cyfnod anodd hwn i gymryd gofal ychwanegol, a chadw diogelwch tân sylfaenol mewn cof er mwyn helpu i osgoi tanau yn y cartref a lleihau’r galw ar ein diffoddwyr tân,” meddai Dean Loader.
“Mae rhai o’r digwyddiadau diweddar y buom yn bresennol ynddyn nhw wedi bod yn gwbl ddiangen.
“Ledled Cymru, mae dros 40% o’r holl danau yn y cartref yn dechrau yn y gegin – gan ddangos yn union pa mor hawdd y gall paratoi pryd o fwyd droi’n drychineb.
“Gyda mwy o bobl yn treulio mwy o amser yn coginio gartref, gallai’r nifer hwn godi hyd yn oed yn uwch.
“Dim ond troi i ffwrdd am unwaith a gall droi yn drasiedi – mae’n swnio’n amlwg ond mae peidio canolbwyntio yn un o brif achosion tân yn y gegin, boed yn mynd at ein plant neu’n syml yn defnyddio ffôn symudol neu dabled.
“Dro ar ôl tro rydyn ni’n mynd i danau mewn tai sydd wedi dechrau yn y gegin – mae’n hawdd anghofio, yn enwedig os ydych wedi blino, wedi tynnu’ch sylw neu wedi bod yn yfed.
“Fodd bynnag, gall y canlyniadau fod yn ddinistriol.”