Mae Boris Johnson wedi wfftio beirniadaeth am ymadawiad Mark Sedwill, Pennaeth y Gwasanaeth Sifil, Ysgrifennydd y Cabinet a Chynghorydd Diogelwch Cenedlaethol y Deyrnas Unedig gan ddweud fod ganddo “lawer i’w gynnig o hyd”.

Mewn llythyr at Boris Johnson, dywedodd Mark Sedwill mai dyma oedd yr amser cywir i adael, a hynny wrth i’r llywodraeth symud i’r cam nesaf o’u cynllun i fynd i’r afael â’r coronafeirws.

Daw ei ymadawiad yn dilyn adroddiadau o densiynau rhyngddo ef ag aelodau o dîm Boris Johnson.

Mae ymadawiad Mark Sedwill yn dilyn nifer o newidiadau ar frig y Gwasanaeth Sifil yn ystod y misoedd diwethaf.

“Gwneud bob dim mae Cummings yn gofyn iddo wneud”

Mae Aelodau Seneddol yr wrthblaid wedi pwyntio bys at brif gynorthwyydd y Prif Weinidog Dominic Cummings, gan awgrymu iddo chwarae rhan yn ymadawiad Mark Sedwill.

Mae lle i gredu fod gan Dominic Cummings berthynas wael â Mark Sedwill a benodwyd yn Ysgrifennydd y Cabinet a Chynghorydd Diogelwch Cenedlaethol yn 2018 gan y cyn-Brif Weinidog, Theresa May.

Dywedodd arweinydd dros dro y Democratiaid Rhyddfrydol, Ed Davey: “Mae Boris Johnson yn amlwg yn barod i wneud bob dim mae Cummings yn gofyn iddo wneud, gan gynnwys gwneud y Gwasanaeth Sifil yn fwy gwleidyddol a chael gwared ar unrhyw un sydd eisiau dwyn y Llywodraeth i gyfrif.”

Bydd y broses ar gyfer recriwtio pennaeth newydd i’r Gwasanaeth Sifil yn cychwyn yn fuan.

“Angen canolbwyntio ar yr argyfwng”

Mae arweinydd y Blaid Lafur, Keir Starmer wedi dweud y dylai’r Prif Weinidog ganolbwyntio ar yr argyfwng sy’n wynebu’r wlad yn hytrach na chael gwared ar brif swyddogion.

“Mae’n ymddangos i mi roedd y Prif Weinidog eisiau cael gwared ag Ysgrifennydd y Cabinet, a’i fod yn benderfynol o wneud hynny,” meddai Keir Starmer wrth Sky News.

“Pam byddai rhywun yn gwneud hynny ynghanol pandemig yn lle canolbwyntio ar yr argyfwng?

“Mae’n gwestiwn mae angen i’r Prif Weinidog ei ateb.”

Mae beirniadaeth hefyd wedi bod i benderfyniad Boris Johnson i benodi David Frost fel Ymgynghorydd Diogelwch Cenedlaethol – penodiad gwleidyddol yn hytrach na gwas sifil diduedd.

David Frost oedd Prif Gynghorydd y Prif Weinidog ar Ewrop.

Dywedodd y cyn-ysgrifennydd cabinet, yr Arglwydd O’Donnell: “Rwy’n poeni bod David Frost wedi ei benodi yn ymgynghorydd diogelwch cenedlaethol – dydw i ddim yn hollol siŵr sut mae rhoi cynghorydd arbenigol yn y rôl honno’n gweithio.”

Wrth siarad â BBC Radio 4 dywedodd fod penodiadau gwleidyddol yn “fwy tebygol o fod yn ddynion ie, sydd yn dweud yr hyn y mae gweinidogion eisiau ei glywed yn hytrach na gwrthwynebu a dweud y gwir.”

Er hyn croesawodd yr Ysgrifennydd Addysg, Gavin Williamson, y newyddion am apwyntiad David Frost gan ddweud fod ei record o “wasanaeth cyhoeddus yn dda iawn” a’r nod bob amser oedd dod o hyd i’r person gorau ar gyfer y swydd.

Ar ôl cytuno i adael ym mis Medi, mae Boris Johnson wedi gofyn i Mark Sedwill arwain panel newydd y G7 ar ddiogelwch economaidd byd-eang.