Mae lle i gredu bod achosion diweddar o’r coronafeirws mewn tair ffatri prosesu bwyd yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys 2 Sisters yn Llangefni, yn gysylltiedig â ffreuturau a gweithwyr yn rhannu ceir, meddai’r Ysgrifennydd Amgylchedd.
Dywedodd George Eustice wrth y Senedd y bydd y Llywodraeth yn cyflwyno canllawiau newydd i ffatrïoedd er mwyn ceisio atal y feirws rhag lledaenu ymhellach.
Ddydd Mawrth (Mehefin 23), dywedodd y Prif Weinidog Boris Johnson ei fod yn ymchwilio i’r achosion, tra bod y prif ymgynghorydd gwyddonol Syr Patrick Vallance wedi dweud y gallai’r tymheredd oer mewn ffatrïoedd fod yn ffactor.
Yn yr Almaen, mae ffatri prosesu bwyd fwyaf Ewrop wedi cael clwstwr o achosion Covid-19 sydd wedi arwain at oddeutu 7,000 o bobl yn hunan ynysu.
Adolygu canllawiau
Yn ystod sesiwn Cwestiynau’r Amgylchedd, gofynnodd yr Aelod Seneddol Llafur Luke Pollard os oedd tal salwch statudol yn ddigonol i sicrhau bod pobol ddim yn teimlo bod yn rhaid iddyn nhw weithio pan maen nhw’n sâl.
“Rydym yn amau bod yr achosion yma’n gysylltiedig â ffreuturau a chynlluniau rhannu ceir,” meddai George Eustice.
“A byddwn yn adolygu ein canllawiau er mwyn sicrhau bod busnesau yn gallu atal rhagor o achosion yn y dyfodol”.
Mae achosion wedi bod mewn tair ffatri prosesu cig gan gynnwys ffatri prosesu ieir 2 Sisters yn Llangefni, Ynys Môn lle mae 158 o achosion wedi cael eu cadarnhau, a Rowan Foods yn Wrecsam.
Cymorth i’r diwydiant llaeth
Yn y cyfamser mae George Eustice hefyd wedi cadarnhau y bydd ffermwyr llaeth yn cael eu cefnogi gan gronfa newydd y Llywodraeth.
Dywedodd bod y sector wedi cael ei effeithio’n sylweddol yn sgil cau’r diwydiant lletygarwch yn ystod y cyfyngiadau.
Ychwanegodd bod y gronfa wedi dechrau ystyried ceisiadau ers Mehefin 18 ac y bydd taliadau’n cael eu gwneud o Orffennaf 6.