Mae’r economi yn cael ei aildanio mewn ffordd “mwy gofalus” yng Nghymru nac yn Lloegr, yn ôl Gweinidog yr Economi.

Daeth sylw Ken Skates wrth iddo roi tystiolaeth i Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin fore heddiw (Dydd Iau, Mehefin 25).

Yn ystod y sesiwn, mi wnaeth Cadeirydd y pwyllgor, Stephen Crabb, awgrymu sawl gwaith bod yr economi yn cael ei aildanio yn arafach yng Nghymru nac yn Lloegr.

Mae’r cyfnod clo wedi cael ei lacio cryn dipyn dros Glawdd Offa, ac yn ymateb i’r cwestiynau dywedodd Ken Skates bod ei Lywodraeth yn “bwrw ati mewn ffordd gofalus”.

“Mae’n rhaid i ni sicrhau bod buddiannau hir dymor yr economi ymhlith ein prif amcanion,” meddai.

“Ond yn anad dim, argyfwng iechyd cyhoeddus yw hyn. Ac mae iechyd yr economi yn hollol ddibynnol ar iechyd y genedl.”

Ailagor siopau

Roedd Ken Saktes yn gwrthod yr honiad bod Cymru yn arafach, ac mae yna le i ddadlau nad yw Cymru ar ei hol hi o gymharu â gwledydd eraill y Deyrnas Unedig.

Ers dydd Llun mae siopau manwerthu nad yw’n hanfodol wedi medru ailagor ledled Cymru – wnaeth y gweinidog dynnu sylw at hyn yn y sesiwn.

Mae’r fath siopau yn parhau i fod ynghau yn yr Alban, ond eisoes ar agor yng Ngogledd Iwerddon a Lloegr.

Yn ystod y sesiwn dywedodd y gweinidog bod y Llywodraeth yn “edrych ar frys ar sut allwn sicrhau bod y diwydiant croeso yn medru ailagor yn ddiogel”, a dywedodd bod adolygiad yn mynd rhagddo.