Mae llywodraethau a busnesau yn cyflwyno rhagor o fesurau rhagofal wrth i nifer yr achosion gynyddu mewn amryw o lefydd o gwmpas y byd.
Mae disgwyl i nifer yr achosion yn Indonesia fynd y tu hwnt i 50,000 heddiw (dydd Iau, Mehefin 25) tra bod 473,105 o bobol wedi eu heintio yn India.
Gan nad oes digon o brofion yn cael eu cynnal, mae’r gwir ffigyrau’n debygol o fod yn uwch.
Mae’r feirws yn gyfrifol am 120,000 o farwolaethau yn yr Unol Daleithiau, y nifer mwyaf yn y byd, gyda 2.3 miliwn o achosion wedi eu cofnodi.
Mae Prifysgol Washington wedi dweud y gallai nifer y marwolaethau godi i 180,000 erbyn Hydref 1.
Mae’n debyg y bydd gwledydd Ewropeaidd yn barod i ail agor eu ffiniau erbyn Gorffennaf 1, gyda chynrychiolwyr yr Undeb Ewropeaidd yn trafod y meini prawf ar gyfer codi cyfyngiadau ar ymwelwyr o du allan i Ewrop.
Mae’n annhebygol y bydd Americanwyr yn cael dod i Ewrop, o ystyried sefyllfa’r pandemig yno a’r ffaith bod yr Arlywydd Donald Trump wedi gwahardd pobol o Ewrop rhag mynd i’r Unol Daleithiau.
Yn Tsieina, lle ddechreuodd y feirws llynedd, mae cynnydd mewn achosion yn Beijing i weld o dan reolaeth bellach.
Bu 19 achos newydd ar draws y wlad yn sgil profion torfol yn y brifddinas.