Mae honiadau o gam-drin domestig yn cael eu “hanwybyddu neu eu diystyru” mewn llysoedd teuluol, yn ôl adroddiad newydd.

Mae troseddwyr yn gallu parhau i “reoli” eu dioddefwyr drwy eu gorfodi yn ôl i’r llys, meddai panel o arbenigwyr yn yr adroddiad, sydd wedi ei gomisiynu gan y Llywodraeth.

Yn sgil canfyddiadau’r adroddiad mae gweinidogion wedi rhoi addewid i gyflwyno diwygiadau er mwyn mynd i’r afael â’r broblem.

Cafodd barn 1,200 o bobl ei ystyried gan gynrychiolwyr elusennau, cyfreithwyr ac academyddion wth iddyn nhw edrych ar sut mae llysoedd teuluol yn trin dioddefwyr a phlant.

Y llynedd, dechreuwyd 54,920 o achosion cyfreithiol preifat yn y llysoedd teuluol o dan y Ddeddf Plant.

Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod cam-drin domestig wedi chwarae rhan mewn rhwng 49% a 62% o achosion gafodd eu lansio i sefydlu trefniadau, neu gyswllt, gyda phlant.

Er bod  pobol yn “gweithio o dan bwysau”, mae’r adroddiad yn datgelu “problemau systematig sydd yn effeithio sut mae risg i blant ac oedolion yn cael ei adnabod a’i reoli”.

Roedd y panel wedi darganfod bod:

  • Dim digon o adnoddau i gadw i fyny â’r cynnydd mewn achosion.
  • Diffyg cyfathrebu rhwng mathau gwahanol o lysoedd sydd wedi arwain at “benderfyniadau gwrthgyferbyniol a dryswch”.
  • Mwy o bobol heb gynrychiolaeth yn y llys.
  • Dioddefwyr yn wynebu diffyg dealltwriaeth ynglŷn ag achosion o gam-drin a’r effaith parhaus, yn ogystal â delwedd ystrydebol o sut ddylai’r “dioddefwr delfrydol” ymddwyn.
  • Troseddwyr yn cael cyswllt gyda phlant “heb orfod delio gyda’i hymddygiad” sy’n arwain at “reolaeth barhaus”.

Dywed prif weithredwr dros dro Cymorth i Fenywod, Nicki Morgan fod yr adroddiad yn “gam ymlaen wrth ddatgelu beth mae merched a phlant sy’n dioddef o gam-drin domestig wedi bod yn dweud ers degawdau” gan ychwanegu bod “angen cyflwyno newid”.

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi dweud y byddan nhw’n “ailstrwythuro” sut mae llysoedd teuluol yn delio â dioddefwyr yn sgil yr adroddiad.