Mae Sioe Flodau Caerdydd wedi cael ei chanslo yn 2021 yn dilyn colledion sylweddol gan y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol (RHS), sy’n cynnal y sioe.
Cafodd y sioe ei gohirio yn gynharach eleni yn sgil pandemig y coronafeirws ac ni fydd sioe y flwyddyn nesaf, meddai’r RHS.
Mae’n un o nifer o sioeau sydd wedi cael eu gohirio yn 2021 gan yr elusen arddio yn sgil colledion o filiynau o bunnoedd oherwydd effaith y coronafeirws.
Mae’r RHS yn disgwyl colli hyd at £18 miliwn eleni ac mae’r elusen wedi gorfod edrych yn fanwl ar ei chyllid er mwyn diogelu ei dyfodol, meddai.
Dywedodd yr elusen ei bod yn dechrau gweld gwellhad araf, ond bod y dyfodol yn ansicr a bod angen lleihau eu rhwymedigaethau ariannol ar gyfer 2021.
Ychwanegodd yr RHS eu bod yn gobeithio ystyried digwyddiadau ychwanegol i ddarparu ysbrydoliaeth a phrofiadau garddio newydd i’w haelodau, yn ogystal â chyrraedd cynulleidfaoedd newydd sydd wedi cael eu hysbrydoli i arddio am y tro cyntaf yn ystod y cyfnod cloi.
“Penderfyniad anodd, ond cyfrifol”
Dywedodd Sue Biggs, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr RHS: “Roedd Sioe Flodau Caerdydd yn rhan allweddol o’n cylch gwaith elusennol i hyrwyddo garddio, ond gan eu bod yn denu llai o ymwelwyr na Tatton a Hampton ac yn gost sylweddol i’w rhoi ymlaen, gyda thristwch mawr ni allwn fforddio parhau i’w rhedeg yn y cyfnod hwn.
“Mae angen i ni leihau ein rhwymedigaethau ariannol lle bynnag y bo’n bosibl, tra’n ceisio ein gorau i weithio yn y ffordd decaf posib gyda’r holl randdeiliaid, gan gynnwys ein partneriaid yng Nghyngor Caerdydd a Chatsworth House (sydd hefyd yn cael ei gohirio), a byddwn wrth gwrs yn parhau i gefnogi’r diwydiant.
“Rydym wedi mwynhau gweithio gyda’n partneriaid a phawb yn y ddwy sioe yn fawr iawn ac rydym wedi diolch i bawb a’r holl aelodau ac ymwelwyr dros y blynyddoedd am eu gwneud mor wych.
“Dyma’r penderfyniad anoddaf ond mwyaf cyfrifol y gallwn ei wneud, mae’n ddyletswydd arnom i’n haelodau, ein rhoddwyr, ein noddwyr a’n holl gefnogwyr i wario ein harian yn ddoeth a gwneud y gorau gallwn ni i wasanaethu garddwyr y genedl. Mae’n gyfnod anodd i bawb.”
Yn ôl yr RHS, maen nhw’n edrych ar ffyrdd a chyfleoedd eraill i gefnogi’r diwydiant, tyfwyr, grwpiau cymunedol ac aelodau sydd wedi bod yn rhan o sioeau Caerdydd a Chatsworth.
.