Fe fydd mwy na £600,000 yn cael ei rannu rhwng 12 o wasanaethau arbenigol ledled de Cymru, meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Alun Michael, mewn partneriaeth â’r Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Fe fydd y £635,150 yn arbennig ar gyfer helpu i gefnogi dioddefwyr trais rhywiol a cham-drin domestig yn ystod pandemig Covid-19.

O ganlyniad i’r argyfwng presennol, mae pellter wedi gwneud pethau’n waeth i rai o’r rheiny sy’n byw gyda thrais a cham-drin yn y cartref, gan ei gwneud yn bwysicach nag erioed i ddioddefwyr a goroeswyr allu cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.

Mae’r deuddeg sefydliad hyn wedi saddasu eu darpariaeth yn ystod y pandemig i sicrhau eu bod yn gallu ymdopi â’r cynnydd yn y galw.

Mae’r arian ychwanegol yn ceisio cydnabod yr ymdrechion hyn a helpu i gynnal cefnogaeth i ddioddefwyr a goroeswyr dros y tymor hir.

Mae’r cyllid o £25miliwn yn rhan o becyn ariannu Covid-19 gan y Swyddfa Gartref i helpu elusennau ledled Cymru a Lloegr i gefnogi pobl fregus, gan gynnwys dioddefwyr trais rhywiol a cham-drin domestig yn ystod yr argyfwng.

Gwaith ‘hanfodol’

“Amddiffyn pobl fregus yw’r flaenoriaeth bennaf i mi ac i’r Prif Gwnstabl Matt Jukes,” meddai Alun Michael.

“O ddechrau’r argyfwng Covid-19, rydym wedi rhoi cryn ymdrech i weithio gyda’n partneriaid i gefnogi dioddefwyr camdriniaeth a chodi ymwybyddiaeth o’r peryglon cynyddol y maen nhw’n eu hwynebu.

“Mae’r angen i aros gartref yn gallu gwneud pethau’n waeth o lawer i’r rhai sy’n byw gyda thrais a cham-drin yn y cartref, gyda pherygl o niwed difrifol, mwy o reolaeth, trais pellach, neu fathau eraill o gam-drin.

“Am y rhesymau hyn mae bellach yn bwysicach nag erioed i ddioddefwyr a goroeswyr wybod y tu hwnt i amheuaeth nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain a bod help ar gael iddyn nhw.

“Mae’r ffordd y mae ein partneriaid ar draws De Cymru wedi addasu mewn amgylchiadau arbennig o anodd wedi gwneud argraff fawr arna i, wrth weithio’n ddiflino i gynnal y gwasanaeth ac, mewn rhai achosion, mewn gwirionedd yn gwella lefel y cymorth sydd ar gael.

“Rwy’n falch iawn o allu dyrannu dros £600,000 i gefnogi’r gwaith hollol hanfodol hwn yn ystod cyfnod digyffelyb.”