Fe fydd tua 2,000 o swyddi rheolwyr yn diflannu yn y Post Brenhinol wrth i’r grŵp geisio torri costau yn sgil y coronafeirws.

Dywedodd y grŵp bod y diswyddiadau’n rhan o’u cynlluniau i drawsnewid yr adran reoli er mwyn arbed £330m dros y ddwy flynedd nesaf.

Fe fydd y cynlluniau’n effeithio rhai o’i 9,700 o reolwyr a phrif weithredwyr.

Mae’r Post Brenhinol yn un o nifer o gwmnïau yn y Deyrnas Unedig sydd wedi cyhoeddi diswyddiadau mawr yn sgil y pandemig, gan gynnwys Centrica, perchennog Nwy Prydain a’r cwmnïau hedfan easyJet a British Airways.

Dywedodd Keith Williams, cadeirydd dros dro grŵp y Post Brenhinol nad oedd y busnes yn y Deyrnas Unedig wedi “addasu’n ddigon cyflym i’r newidiadau yn y farchnad”, gyda mwy o barseli a llai o lythyron yn cael eu hanfon.

“Mae Covid-19 wedi cyflymu’r arferion yma, sydd wedi cyflwyno heriau ychwanegol,” meddai.