Mae dau fachgen a dynes mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn ffrwydrad mewn tŷ ger Castell-nedd ddydd Mercher (Mehefin 24).

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r tŷ ym Mlaendulais, ger Castell-nedd yn dilyn adroddiadau am ffrwydrad tua 2.05pm bnawn dydd Mercher.

Dywed Heddlu De Cymru bod dau fachgen 2 a 5 oed a dynes 31 oed wedi’u hanafu.

Cafodd y ddau fachgen eu cludo mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Southmead ym Mryste tra bod y ddynes yn cael triniaeth yn Ysbyty Treforys yn Abertawe.

Dywedodd yr heddlu bod y tri mewn cyflwr difrifol ond sefydlog yn yr ysbyty a bod ymchwiliad yn cael ei gynnal i achos y ffrwydrad.

Cafodd trigolion 14 o gartrefi eu symud fel rhagofal ac mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi sefydlu canolfan arbennig ar eu cyfer.

Yn ôl llefarydd ar ran Heddlu’r De roedden nhw wedi derbyn nifer o adroddiadau am ffrwydrad mewn tŷ yn Heol yr Eglwys ym Mlaendulais bnawn ddoe am 2.05pm.

“Mae nifer o eiddo a cherbydau yn y stryd wedi cael eu difrodi ac mae pobl wedi cael eu symud o’r ardal.

“Ry’n ni’n parhau ar y safle gyda’r gwasanaethau brys ac yn galw ar bobl i barhau i osgoi’r ardal ar hyn o bryd.”

Mae’r ffordd wedi bod ynghau dros nos ac mae traffig yn cael ei arallgyfeirio.