Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyrain De Cymru, Delyth Jewell, yn dweud fod cwestiynau’n parhau heb eu hateb ynghylch profi preswylwyr cartrefi gofal yng Nghymru.
Daw hyn wedi i Lywodraeth Cymru gadarnhau bod cyfanswm o 1,328 o gleifion wedi cael eu hanfon o’r ysbyty i gartrefi gofal yn ystod mis Mawrth a mis Ebrill, a bod 1,097 o’r rheiny heb gael eu profi am Covid-19.
Cefndir
Ddiwedd mis Ebrill, penderfynodd Llywodraeth Cymru brofi’r holl bobl oedd yn cael eu rhyddhau o’r ysbyty i leoliadau gofal – tan hynny dim ond cleifion oedd wedi arddangos symptomau oedd yn cael eu profi.
Yna, ar 16 Mai cyhoeddodd Mr Gething y byddai pob cartref gofal yn cael gofyn am brofion – tan hynny dim ond cartrefi ag achosion wedi’u cadarnhau a ganiatawyd – a dywedodd bryd hynny: “Mae sut rydyn ni’n mynd i’r afael â’r coronafeirws yn newid o hyd wrth i ni dderbyn mwy o dystiolaeth a chyngor gwyddonol.”
Dadlau’n parhau
Yn y gynhadledd i’r wasg ddoe, dydd Mawrth 23 Mehefin, gofynnwyd i Mr Gething ai diffyg capasiti oedd y rheswm dros y polisi blaenorol o beidio â phrofi pobl asymptomatig oedd yn dod i mewn i gartrefi gofal o’r ysbyty.
Ymatebodd y Gweinidog Iechyd drwy ddweud bod hynny’n “anghywir” ac, hyd yn oed petai wedi bod yn bosib profi teirgwaith yn fwy o bobl, byddai’r cyngor wedi aros yr un fath.
Yn y gynhadledd, dywedodd Mr Gething: “Does dim cyfrinach ynglŷn â hyn, roeddem yn glir ar y pryd am y dystiolaeth a’r cyngor a gawsom, a’r penderfyniad a wnaeth Gweinidogion, meddai.
“Ac roedd fy mhenderfyniad ar y pryd ynghylch peidio â chyflwyno profion i bawb sydd wedi cael eu rhyddhau o’r ysbyty i gartref gofal yn golygu mai dyna lle’r oedd y dystiolaeth a’r cyngor ar y pryd.”
“Roedd angen i ni symud pobl allan o’r ysbyty yn gyflym pan oedd y gollyngiadau’n digwydd ym mis Mawrth a mis Ebrill… oherwydd roedd rhaid i ni baratoi ein GIG ar gyfer y don oedd yn dod.”
Ymateb
Ond yn ymateb dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros Lywodraeth Leol, Delyth Jewell AS:
“Rwyf wedi siarad yn bersonol â rheolwyr cartrefi gofal sydd wedi profi nifer dychrynllyd o farwolaethau yn sgil Covid-19 yn dod i mewn yn sgil preswylwyr yn dychwelyd o ysbytai heb brawf.
“Mae’r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn gwrthod esbonio’r rhesymeg dros y polisi yn warthus o ystyried ei fod yn amlwg ei fod wedi arwain ar lu o farwolaethau diangen.
“Dyw cuddio tu ôl i gyngor gwyddonol nad ydyn nhw’n fodlon ei gyhoeddi ddim yn dderbyniol, maen nhw’n dweud nad diffyg capasiti oedd y broblem… felly pam ar wyneb y ddaear oedden nhw’n gwrthod cynnal y profion?”