Mae arweinydd undeb a meddyg sy’n gweithio gyda chleifion coronafeirws yn codi cwestiynau am ddiffyg strategaeth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ymdrin â chlystyrau o’r coronafeirws fel yr un ar safle ffatri ieir ar Ynys Môn.

Ddechrau’r wythnos, daeth cadarnhad bod 158 o weithwyr ffatri 2 Sisters yn Llangefni yn dioddef o’r coronafeirws.

Undeb Unite sy’n cynrychioli nifer helaeth o weithwyr y ffatri.