Mae Iestyn Jones yn hoffi troi ei law at bob math o bethau – actio, canu mewn bandiau, trefnu gigs, a sgwennu colofn bapur newydd.

Bu yn rhan o’r syrcit comedi stand-yp tra oedd yn byw yng Nghaerdydd, mae wedi cyfrannu i Y Cymro ers blynyddoedd maith, ac roedd yn un o’r criw aeth ati i achub y papur newydd yn y blynyddoedd diweddar.

Mae wedi rhoi’r gorau alcohol a chyffuriau ers blynyddoedd, ac yn fwy diweddar wedi cefnu ar Facebook.