Emmanuel Macron yw Arlywydd newydd Ffrainc, ar ôl trechu Marine Le Pen (Llun: PA)
Mae’r polau cychwynnol yn awgrymu mai Emmanuel Macron yw Arlywydd newydd Ffrainc.

Mae Marine Le Pen, ymgeisydd y Front National, wedi ffonio’i gwrthwynebydd i’w longyfarch ar ôl i bolau cychwynnol awgrymu ei fod e wedi ennill 65% o’r bleidlais.

Serch hynny, dyma ganlyniad arlywyddol gorau’r Front National, y blaid asgell dde eithafol, ers ei sefydlu 45 o flynyddoedd yn ôl.

Emmanuel Macron fydd yr Arlywydd ieuengaf erioed, ac yntau’n 39 oed.

Mae disgwyl dathliad ger amgueddfa’r Louvre ym Mharis yn ddiweddarach.

Beth nesaf i Marine Le Pen?

Bydd sylw Marine Le Pen nawr yn troi at etholiadau deddfwriaethol mis Mehefin, ac mae hi wedi awgrymu y gallai enw’r blaid newid mewn ymgais i newid ei delwedd yn sgil honiadau o hiliaeth a gwrth-Semitiaeth.

Dywedodd Prif Weinidog Ffrainc, Bernard Cazeneuve fod Ffrancwyr wedi “gwrthod prosiect marwol yr asgell dde eithafol”.

Ychwanegodd fod y canlyniad hefyd yn dangos bod tipyn o gefnogaeth o hyd yn Ffrainc i fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd.