Arweinydd Gogledd Corea, Kim Jong Un (Llun: PA)
Mae Americanwr wedi cael ei arestio yng Ngogledd Corea ar amheuaeth o ddrwgweithredu yn erbyn y wlad.

Cafodd Kim Hak Song, sy’n gweithio i Brifysgol Wyddoniaeth a Thechnoleg Pyongyang, ei arestio ddydd Sadwrn.

Roedd Kim Sang Dok, un arall sy’n gweithio yn yr un brifysgol, wedi cael ei arestio ddydd Mercher yn dilyn honiadau ei fod yn ceisio gwrthryfela yn erbyn y llywodraeth.

Dydy hi ddim yn glir eto a oes cyswllt rhwng y ddau achos, ac mae ymchwiliad ar y gweill.

Mae o leiaf bedwar o Americanwyr yn y ddalfa yng Ngogledd Corea ar hyn o bryd.

Mae pryderon ar hyn o bryd fod llywodraeth Gogledd Corea yn paratoi am ymosodiad niwclear.