Mae ffrae yn corddi ar ôl i filwyr o Bacistan ladd o leiaf 50 o filwyr o Afghanistan ar y ffin rhwng y ddwy wlad.

Ond mae Afghanistan yn gwadu’r honiadau, gan ddweud mai dim ond dau o blismyn ac un aelod o’r cyhoedd a gafodd eu lladd.

Fe fu’r ddwy wlad yn ymladd ers dydd Gwener ar ôl i’r ffin gael ei chau gan Bacistan ger Chaman.

Mae’r ffin rhwng y ddwy wlad yn ymestyn dros 1,375 o filltiroedd.

Yn ôl lluoedd Pacistan, cafodd ychydig o’u milwyr eu lladd neu eu hanafu, a 100 o filwyr o Afghanistan eu lladd.

Ond dywedodd awdurdodau Afghanistan fod yr honiadau’n “gwbl ddi-sail”.

Yn ôl Afghanistan, Pacistan oedd wedi ymosod arnyn nhw’n gyntaf.