Llun: PA
Mae 514 o ffoaduriaid wedi cael eu hachub wrth geisio croesi’r Môr Canoldir, yn ôl asiantaeth yn Sbaen.
Cafodd y ffoaduriaid eu hachub o gychod rwber a phren rhwng bore Sadwrn a bore Sul.
Roedd nifer yn ffoi oddi wrth y rhyfel yn Syria, yn ôl yr awdurdodau, ac eraill yn gadael Libya.
Mae lle i gredu eu bod nhw ar eu ffordd i’r Eidal, ond eu bod nhw wedi mynd i drafferthion mewn tywydd garw.
Ddydd Sadwrn, cafodd 651 o ffoaduriaid eu hachub gan lynges Sbaen oddi ar arfordir Libya.