Mark Golubovic (LlunL Heddlu De Cymru)
Mae teyrngedau wedi’u rhoi i ddyn 32 oed fu farw mewn gwrthdrawiad fore dydd Sadwrn.
Cafodd Mark Golubovic ei ladd pan darodd ei gar yn erbyn lori ar Ffordd Llanhari ym Mhontyclun am oddeutu 8.30am.
Cafodd ei fam, Irene, anafiadau difrifol ac mae hi yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd o hyd.
Mewn datganiad, dywedodd y teulu eu bod nhw’n “torri’u calonnau”.
“Roedd Mark yn dad a mab cariadus ac yn ffrind gwych i gynifer o bobol.
“Mae ein meddyliau gyda’i fam Irene sydd yn yr uned gofal dwys yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd.”
Mae ymchwiliad ar y gweill, ac mae Heddlu’r De yn apelio am dystion.