Nigel Farage (Llun: PA)
Nigel Farage sydd ar fai am fethiant UKIP yn ystod yr etholiadau lleol, yn ôl cyn-Aelod Seneddol y blaid, Douglas Carswell.
Dywedodd fod y cyn-arweinydd wedi canolbwyntio ar fewnfudwyr yn hytrach na materion ehangach.
Mae Douglas Carswell bellach wedi gadael y blaid, ac fe fydd e’n camu o’r neilltu adeg yr etholiad cyffredinol brys ar Fehefin 8.
Dywedodd fod Nigel Farage wedi troi pleidleiswyr posib i ffwrdd drwy wylltio o hyd am fewnfudwyr.
Collodd y blaid fwy na 100 o seddi yn yr etholiadau lleol yr wythnos diwethaf, gan ennill un sedd yn unig.
Ond mae’r arweinydd presennol, Paul Nuttall yn mynnu bod gan y blaid “ddyfodol gwych”.
Methiannau
Mewn erthygl yn y Mail On Sunday, dywedodd Douglas Carswell fod Nigel Farage wedi tanseilio gwaith y blaid gyda nifer o sylwadau amheus.
“UKIP yn unig oedd yn cynnig y cyfle am newid. Ond wnaethon ni fethu.
“Enillon ni bron i 60% o’r bleidlais yn Clacton drwy siarad am feddygon teulu, nid dim ond mewnfudwyr. Yn Rochester, enillon ni drwy estyn allan y tu hwnt i’n cadarnle.
“Ond yn hytrach na dysgu o hynny, aeth Nigel Farage yn ôl at yr ystrydeb.
“Ar y diwrnod yr enillon ni yn Clacton, roedd arweinydd UKIP ar y pryd yn canolbwyntio ar fewnfudwyr a chanddyn nhw HIV.
“Wedyn fe lwyddodd e i gael ffrae am famau’n bwydo ar y fron yn gyhoeddus, cyn gwneud synnau haerllug am bobol o Rwmania.
“Pam? Ymhell o fod yn meddu ar strategaeth, mae’n ymddangos ein bod ni’n cael ein gyrru gan beth bynnag oedd yn dod o enau Nigel.”
Wfftio
Ond mae Nigel Farage wedi wfftio’r sylwadau, gan ddweud nad oes modd ymddiried yn Douglas Carswell.