Mae Gwylwyr y Glannau wedi bod yn chwilio arfordir Sir Benfro am ddyn sydd ar goll ers prynhawn ddoe.
Cawson nhw eu galw i ardal Penmaen Dewi am 3.10pm ddoe yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi cael ei weld yn ceisio gafael mewn clogwyn.
Daeth y chwilio i ben am y tro am 9pm neithiwr, ond mae’r timau’n parhau i chwilio am y dyn heddiw.
Daeth y timau achub o hyd i gôt yn y dŵr, ond dydyn nhw ddim yn gwybod eto pwy yw’r dyn maen nhw’n chwilio amdano fe.
Mae’r timau achub wedi apelio am wybodaeth.