Mae oddeutu 50,000 o bobol wedi cael eu gorfodi i adael eu cartrefi ar ôl i bump o fomiau o’r Ail Ryfel Byd gael eu darganfod yn Hannover yn yr Almaen.
Cafodd dau fom eu darganfod ar safle adeiladu, a’r tri arall yn yr ardal gyfagos.
Cafodd yr Almaen ei bomio’n sylweddol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Cafodd pamffledi eu dosbarthu yn Almaeneg, Pwyleg, Twrceg, Saesneg a Rwsieg yn gofyn i bobol adael eu cartrefi tra bod swyddogion yn diogelu’r safle.
Mae pobol oedrannus yr ardal wedi cael mynd i chwarae Scrabble a gemau cardiau mewn canolfan ddiogel am y tro.
Mae disgwyl y bydd modd i bobol ddychwelyd i’w cartrefi heno.