Fe fydd mynd i’r afael â phroblemau iechyd meddwl ar frig agenda’r Ceidwadwyr yn yr etholiad cyffredinol ar Fehefin 8.
Mae Prif Weinidog Prydain wedi addo neilltuo £1 biliwn er mwyn datrys y sefyllfa, gan gynnwys sicrhau bod gan bob ysgol arbenigwr iechyd meddwl, yn ôl y Sunday Times.
Bydd yr £1 biliwn yn mynd at gyflogi 10,000 o staff newydd ac i hyfforddi 1,500 o staff bob blwyddyn erbyn 2020.
Ymhlith y camau eraill y mae disgwyl i Theresa May eu cymryd mae:
- Diddymu Deddf Iechyd Meddwl 1983 a thrin mwy o bobol yn y gymuned, gan ddileu’r ystrydebau sy’n arwain at fwy o bobol groenddu’n cael eu harestio
- Atal neilltuo yn erbyn pobol yn y gweithle ar sail eu hiechyd meddwl
- Ariannu llinell gymorth y Samariaid tan 2022
- Arbenigwyr iechyd meddwl i bob ysgol a busnes yng Nghymru a Lloegr
Cafodd mwy na 63,000 o bobol eu cadw yn y ddalfa o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl yn 2014-15, sy’n gynnydd o 43% o’i gymharu â 2005-06.
Mae pobol groenddu sydd wedi derbyn triniaeth am gyflwr iechyd meddwl 50% yn fwy tebygol na phobol â chroen gwyn o gael eu cadw yn y ddalfa pan fyddan nhw’n mynd yn sâl eto.
‘Stigma annerbyniol’
Dywedodd Prif Weinidog Prydain, Theresa May wrth y Sunday Times fod pobol wedi bod yn dioddef “stigma annerbyniol” am yn rhy hir.
“Am yn rhy hir, mae pobol a chanddyn nhw broblemau iechyd meddwl wedi dioddef stigma annerbyniol a’r anghyfiawnder o ddarganfod pan fo angen gofal arnyn nhw nad oes digon o gymorth ar gael.
“Mae’r rheiny sy’n derbyn triniaeth wedi darganfod nad oes ganddyn nhw’r dewisiadau a’r gofal y bydden nhw’n eu disgwyl pe bai ganddyn nhw salwch corfforol.
“Mae hynny’n anghywir, a dw i’n benderfynol o gywiro hynny.”