Jeremy Corbyn (Llun: PA)
Mae Jeremy Corbyn wedi gwrthod gwneud sylw am ei ddyfodol yn arweinydd y Blaid Lafur, ond mae e’n mynnu y bydd ei blaid yn “brwydro i ennill” yr etholiad cyffredinol ar Fehefin 8.

Dywedodd y byddai’n “gweld beth yw’r canlyniad” cyn penderfynu a fydd e’n parhau’n arweinydd.

Un o brif addewidion etholiadol y blaid yw na fydd unrhyw un sy’n ennill na £80,000 y flwyddyn yn wynebu codiadau mewn trethi.

Mae’r Ceidwadwyr wedi beirniadu Jeremy Corbyn yn dilyn cyhoeddi fideo lle mae e’n galw ymosodiadau o’r awyr yn “anweddus”, gan alw am roi terfyn ar eu defnyddio nhw.

Etholiadau lleol

Cyfaddefodd Jeremy Corbyn fod canlyniadau’r etholiadau lleol yn siomedig i’r Blaid Lafur, wrth i’r Ceidwadwyr gipio nifer sylweddol o seddi oddi arnyn nhw.

Dywedodd wrth Sky News: “Dw i wedi cael fy ethol i arwain y blaid hon a dw i’n falch iawn o wneud hynny.

“Dw i’n falch iawn o’r cynnydd yn nifer yr aelodau a’r cynnydd yng ngweithgarwch ein plaid ni.

“Yn amlwg, dw i’n siomedig am ganlyniadau’r etholiadau ddydd Iau.

“Ry’n ni’n mynd i wneud popeth i ethol ASau Llafur ar Fehefin 8. Ar ôl hynny, cawn weld beth yw’r canlyniad.”

Gwrthododd ateb cwestiynau uniongyrchol am ei ddyfodol fel arweinydd.

Awgrymodd y byddai’r Blaid Lafur yn ceisio targedu pleidleiswyr UKIP oedd wedi pleidleisio dros y Ceidwadwyr yn yr etholiadau lleol.