Mae Trafnidiaeth Cymru yn paratoi i agor pencadlys newydd ym Mhontypridd.
Yr wythnos yma, bydd y gwaith yn dechrau o osod brand Trafnidiaeth Cymru ar y pencadlys yn Llys Cadwyn yng nghanol tref Pontypridd.
Bydd Trafnidiaeth Cymru’n arwyddo les 15 mlynedd gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf ar gyfer yr adeilad.
Mae contractwr adeiladu Cyngor Rhondda Cynon Taf, Wilmott Dixon, yn disgwyl cwblhau’r gwaith erbyn yr hydref.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn bwriadu trosglwyddo allweddi’r adeilad yn swyddogol ar 19 Hydref 2020.
“Cynlluniau beiddgar ac uchelgeisiol” i’w cyflawni
“Rydyn ni wedi bod yn cynllunio ein hadleoliad i Bontypridd ers dros dair blynedd, felly mae cael gweld ein brand yng nghanol y dref yn mynd i fod yn foment falch a phwysig iawn i dîm Trafnidiaeth Cymru, heb sôn am ein holl bartneriaid, yn enwedig Llywodraeth Cymru a’n cydweithwyr yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf, sydd wedi chwarae rhan bwysig yn ein helpu i droi ein dyheadau o greu pencadlys ar gyfer y dyfodol yn realiti,” meddai Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru, James Price.
“Byddwn ni’n dod â hwb economaidd enfawr gyda ni a channoedd o swyddi i Bontypridd wrth i ni barhau i geisio darparu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy y gall pobl Cymru fod yn falch ohono.
“Efallai ein bod ni dal yn sefydliad ifanc, ond mae gennyn ni gynlluniau beiddgar ac uchelgeisiol yr ydym ni’n eu cyflawni.”