Mae Mudiad Meithrin wedi cyhoeddi bod pum aelod newydd wedi cael eu penodi i ymuno â Bwrdd Cyfarwyddwyr y mudiad.

Bydd Elin Maher, Gwenno George, Savanna Jones, Colin Nosworthy, a Huw Marshall yn ymuno â’r bwrdd sy’n cynnig arweiniad strategol i waith Mudiad Meithrin.

Rhai o brif ddyletswyddau’r Bwrdd yw newidiadau polisi a chynnal egwyddorion craidd, gweledigaeth a chenhadaeth Mudiad Meithrin.

Mae 11 o wirfoddolwyr a 4 o ‘swyddogion mygedol’ yn rhan o’r Bwrdd Cyfarwyddwyr gan gynnwys Cadeirydd, Is-gadeirydd, Trysorydd, ac Ysgrifennydd Ariannol.

Yr aelodau newydd  

Elin Maher

Eglurodd Elin Maher sydd yn wreiddiol o bentref Clydach, ond bellach wedi ymgartrefu yng Nghasnewydd, fod ganddi “ddealltwriaeth dda o’r heriau y mae rhieni yn eu hwynebu wrth geisio cael mynediad at y Gymraeg”.

Mae hi wedi gweithio mewn sawl sefydliad ym myd addysg Gymraeg, ac mae hi nawr ar fin gorffen gradd M.A mewn Dwyieithrwydd ac Amlieithrwydd tra’n gweithio’n llawrydd fel ymgynghorydd iaith ac addysg.

Gwenno George

Mae Gwenno Goerge sydd yn wreiddiol o Gricieth wedi ei henwi yn Drysorydd newydd y Bwrdd Cyfarwyddwyr.

Ar ôl graddio o Brifysgol Caerdydd fe gychwynnodd Gwenno ei gyrfa broffesiynolfel Swyddog Cyllid Plaid Cymru cyn cymhwyso yn ddiweddarach fel cyfrifydd. Bellach mae’n Brif Swyddog Cyllid (CFO) gyda chwmni cyfreithiol cenedlaethol yng Nghaerdydd.

“Mae Mudiad Meithrin yn agos iawn at fy nghalon”, meddai.

“O fod wedi mynychu Cylch Ti a Fi yng Nghricieth, rhoddodd y Mudiad fantais fawr i mi cyn cychwyn yr ysgol gynradd. Mae’r cyfleon mae’r Mudiad yn ei gynnig i blant ifanc ar draws y wlad yn amhrisiadwy.”

Savanna Jones

Mae Savanna Jones yn byw yng Nghaerdydd ac yn astudio gradd meistr ym Mhrifysgol Caerfaddon. Mae hi hefyd yn gweithio fel Rheolwr Ehangu Mynediad a Chynhwysiant mewn Addysg Uwch.

“Mae’r cyfle i gyfrannu at addysg blynyddoedd cynnar drwy’r Gymraeg yn hynod bwysig”, meddai.

“Yn enwedig wrth gydnabod fod newid o ran hil ac ethnigrwydd yn ein cymunedau a fydd yn arwain at gynnydd mewn amrywiaeth o blant o wahanol gefndiroedd yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Mae yna gyfle unigryw mewn addysg blynyddoedd cynnar i siapio meddyliau plant wrth gyflwyno profiadau nifer o ddiwylliannau gwahanol ledled y byd; gwaith sylfaenol pwysig.”

Colin Nosworthy

Mae Colin Nosworthy yn hanu o Landrindod yn wreiddiol, ond bellach yn byw yn Aberystwyth ac yn gweithio fel Swyddog Cyfathrebu i’r Brifysgol yno.

Eglurodd fod cael ei ymuno a’r bwrdd yn “fraint o’r mwyaf” a’i fod yn gobeithio defnyddio ei brofiad o faes polisi’r Gymraeg, a pholisi cyhoeddus yn gyffredinol, er lles y genhedlaeth nesaf.

“Mae’r nod cenedlaethol o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg yn ei gwneud yn hanfodol bod twf a buddsoddiad sylweddol mewn addysg blynyddoedd cynnar er mwyn sicrhau mai addysg cyfrwng Cymraeg yw’r norm i bob plentyn, nid yr eithriad i’r rhai ffodus yn unig.”

Huw Marshall

Mae Huw Marshall yn disgrifio ei hun fel “unigolyn sy’n angerddol dros y Gymraeg”.

Mae ganddo bron i ddeng mlynedd ar hugain o brofiad ar sawl lefel o fewn y diwydiannau creadigol, gan arbenigo ar ddarpariaeth o wasanaethau i blant a phobl ifanc.

“Fel rhywun a fagwyd ar y ffin mewn tref di-Gymraeg rwy’n ymwybodol iawn o’r her sy’n wynebu’r iaith Gymraeg yn y degawdau i ddod.

“Diolch i addysg Gymraeg mi gefais yr hyder i ddatblygu gyrfa hynod lwyddiannus drwy gyfrwng y Gymraeg a hynny er i mi beidio dilyn trywydd academaidd.

“Rwyf yn unigolyn sy’n angerddol dros y Gymraeg, datblygiad yr iaith fel iaith fyw gymunedol, ar lawr gwlad ag yn y byd digidol, ym mhob rhan o Gymru, ar draws pob oedran a phob dosbarth gweithiol.”

‘Un o gryfderau mawr Mudiad Meithrin’

“Mae cyfraniad gwirfoddolwyr yn un o gryfderau mawr Mudiad Meithrin”, meddai Dr Rhodri Llwyd Morgan, Cadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr Mudiad Meithrin.

“Mae hynny’n wir ar y lefel genedlaethol yn ogystal â bod yn gwbl greiddiol i’r ddarpariaeth ar lawr gwlad.

“Rydym yn ffodus fel sefydliad ein bod yn medru denu unigolion sy’n fodlon rhoi o’u hamser a’u harbenigedd.

“Mae’n bleser felly i groesawu Elin, Gwenno, Savanna, Colin a Huw i wasanaethu fel aelodau o’r Bwrdd Cyfarwyddwyr ac rwy’n siŵr y gwnawn ni elwa’n fawr o dalentau amrywiol.”