Mae sawl un wedi talu teyrnged i’r cyflwynydd radio Andrew Thomas, neu ‘Tommo’, wrth siarad â golwg360 yn dilyn ei farwolaeth sydyn yn 53 oed.
Roedd yn gyflwynydd rhaglen brynhawn ar Radio Cymru rhwng 2014 a 2018, cyn gadael a dechrau cyflwyno rhaglen ddyddiol i orsafoedd masnachol Nation Broadcasting yng Ngheredigion a Sir Gaerfyrddin, gan ennill gwobr Cyflwynydd Radio’r Flwyddyn yn 2011.
Y tu hwnt i’r byd darlledu, fe oedd llais stadiwm Parc y Scarlets, yn ogystal â bod yn gyflwynydd gweithgareddau diwrnod gemau pêl-droed Abertawe yn Stadiwm Liberty.
Mae’n gadael gwraig, Donna, a mab, Cian.
Mae wedi cael ei ddisgrifio fel “dyn ei filltir sgwâr”, “boi clên” a “chymeriad anferth”.
“Dyn ei filltir sgwâr”
Mae Rhuanedd Richards, Golygydd BBC Radio Cymru, wedi dweud wrth golwg360 fod ganddo “lais mawr a phersonoliaeth fwy.”
“Dyn ei filltir sgwâr oedd Tommo a darlledwr unigryw a oedd wrth ei fodd yn diddanu ac yn sgwrsio gyda’i wrandawyr ar Radio Cymru,” meddai.
“Roedd ganddo lais mawr a phersonoliaeth fwy, ac roedd ei gariad tuag at ei deulu, tuag at orllewin Cymru ac, wrth gwrs, tuag at y Scarlets yn dylanwadu’n drwm ar ei bresenoldeb ar yr awyr.
“Rydym yn drist iawn o glywed y newyddion yma heddiw, ac rydym yn estyn ein cydymdeimlad i deulu a ffrindiau Tommo.”
‘Y rheswm dros ein llwyddiant ni’
Un arall sydd wedi talu teyrnged i Tommo ydi Phillip Williams, neu ‘Phil Gas’ o’r band Phil Gas a’r band.
Dywed ei fod yn ddiolchgar i Tommo, a fuodd yn gefnogol iawn i’r band, ac mai fe oedd y “rheswm dros ein llwyddiant ni”.
“Pan oedden ni’n dechrau chwarae doedd llawer o neb wedi clywed amdanom ni, ond roedd Tommo yn gefnogol iawn,” meddai wrth golwg360.
“Buodd o’n sôn amdanom ni a chwarae ein caneuon yn rheolaidd ar y radio, fo oedd y rheswm dros ein llwyddiant ni.
“Roedd o’n foi clên uffernol, swnllyd ac yn hawdd i’r sgwrs. Roedd o’n ffrind mawr imi a’r band.”
Caplan y Scarlets yn talu teyrnged
Mae’r Parchedig Eldon Phillips, Caplan y Scarlets, wedi talu teyrnged iddo hefyd.
“Rydym yn drist iawn i glywed y newyddion trasig hwn,” meddai.
“Roedd Tommo yn caru’r Scarlets ac yn rhoi ei galon a’i enaid i’w rôl fel llais stadiwm Parc y Scarlets.
“Roedd yn gymeriad anferth ac roedd y cefnogwyr, chwaraewyr a’r staff yn ei garu.
“Mae ein meddyliau a’n gweddïon gyda’i wraig Donna a’i fab Cian.”