Daeth cadarnhad nos Sul mai’r canolbleidiwr Emmanuel Macron fydd yn herio’r ymgeisydd asgell dde, Marine Le Pen, yn etholiadau arlywyddol Ffrainc fis nesaf.

Fe wnaeth y ddau drechu’r cyn-arlywydd, Francois Fillon, sydd wedi bod ynghanol sgandal yn sgil honiadau ei fod wedi rhoi swyddi ffug i’w wraig o Gymru, Penelope Fillon, a’i blant, gan beryglu’i obeithion yn y ras.

Ond mae Francois Fillon wedi cadarnhau mai’r cyn-fanciwr 39 oed, Emmanuel Macron, fydd yn cael ei gefnogaeth ar Fai’r 7 wrth iddo gondemnio polisïau Marine Le Pen.

“Gall eithafiaeth ond dod ag anhapusrwydd a rhaniad i Ffrainc,” meddai Francois Fillon.

Mae’n debyg mai un o bynciau llosg yr etholiad yw aelodaeth Ffrainc o’r Undeb Ewropeaidd gyda Emmanuel Macron yn gefnogol i’r undeb a symudiad rhydd pobol.

Ond mae Marine Le Pen yn ymwrthod â’r undeb ac wedi galw am ddiogelwch llymach, llai  o fewnfudo a throi oddi wrth yr ewro at arian y ‘ffranc’ mewn ymdrech i roi buddiannau “Ffrainc yn gyntaf.”