Mae un o weinidogion Llywodraeth Catalwnia yn disgwyl i’r Gatalaneg dderbyn statws swyddogol yn yr Undeb Ewropeaidd, ond mae’n rhybuddio y “gall gymryd amser” i wireddu hynny.

Er mwyn iddi dderbyn statws swyddogol, byddai angen cydsyniad y 27 gwlad sy’n Aelodau o’r Undeb Ewropeaidd, yn ôl y wefan Catalan News.

Yn ôl Jaume Duch, Gweinidog Tramor a’r Undeb Ewropeaidd yng Nghatalwnia, byddai’r hawl i siarad y Gatalaneg yn yr Undeb Ewropeaidd “yn gwneud i bopeth ymddangos yn normal”, yn ôl y papur newydd El País.

“Dydy hi ddim yn amhosib ennill statws swyddogol i’r iaith Gatalaneg.

“Bydd yn cymryd amser, ond byddwn ni’n ei gyflawni.

“Cyfiawnder ieithyddol yw e.”

Cydnabod ieithoedd brodorol

Daw sylwadau Jaume Duch ar ôl i Lywodraeth Sbaen gynnig cydnabod y Gatalaneg, y Galiseg a’r Fasgeg yn ieithoedd swyddogol yn yr Undeb Ewropeaidd, o ganlyniad i gytundeb rhwng pleidiau annibyniaeth Catalwnia a’r Sosialwyr i gefnogi ymgais Pedro Sánchez i gael ei ailethol yn Brif Weinidog Sbaen.

Er mai Sbaen oedd â Llywyddiaeth Cyngor yr Undeb Ewropeaidd pan gafodd y cynnig ei gyflwyno, doedd gan y wlad ddim digon o gefnogaeth ar gyfer y cynnig, sy’n dal i gael ei drafod.

Roedd y mater yn bwnc llosg i ymgeiswyr Sbaen ar gyfer etholiadau’r Undeb Ewropeaidd eleni, gyda nifer o wledydd eraill yn Ewrop yn wrthwynebus i’r syniad o roi statws swyddogol i ieithoedd brodorol.

Gwlad Belg sydd â’r Llywyddiaeth erbyn hyn, ac maen nhw’n gefnogol hefyd, ond ychydig iawn o gynnydd sydd wedi’i wneud.

Er nad yw’r un o wledydd yr Undeb Ewropeaidd wedi datgan gwrthwynebiad llwyr, mae amheuon ynghylch pa mor gefnogol ydyn nhw mewn gwirionedd, yn enwedig gwledydd eraill lle mae ieithoedd lleiafrifol yn cael eu siarad, er enghraifft y Ffindir a Lithwania.

Cyn rhoi statws swyddogol, byddai angen i Gomisiwn Ewrop gyhoeddi dadansoddiad economaidd, a byddai gofyn i Gyngor Ewrop gyhoeddi adroddiad cyfreithiol hefyd.