Dyw’r Gweinidog Iechyd ddim yn difaru buddsoddi £166m yn sefydlu ysbytai maes yng Nghymru – a hynny, er bod y rhan fwyaf yn wag.

Dros y misoedd diwethaf mae 17 o ysbytai maes wedi cael eu codi ledled y wlad, yn ymateb i’r argyfwng coronafeirws.

Cawson nhw eu sefydlu i ddarparu rhagor o welyau i gleifion pe bai niferoedd achosion yn cynyddu’n ormodol, ond mae bellach wedi dod i’r amlwg mai dim ond un sydd wedi ei ddefnyddio.

Pen ac ysgwydd Vaughan Gething
Vaughan Gething

Yn siarad am y mater brynhawn heddiw (dydd Iau 18 Mehefin), dywedodd Vaughan Gething nad oedd yn difaru eu sefydlu.

“Rydym yn gwybod y gall y coronafeirws ddychwelyd â brig arall,” medda mewn cynhadledd i’r wasg.

“Mewn rhannau eraill o’r byd sy’n symud tuag at y gaeaf mae yna ragor o achosion. Felly, ni fyddai’n synhwyrol, yn fy marn i, i ddatgymalu’r capasiti rydym wedi ei greu.

“Ond mae’n werth atgoffa ein hunain … ein bod wedi gwario £166m yn creu ysbytai maes yng Nghymru. Pe bawn i’n cael y cyfle eto, buaswn i dal yn creu ysbytai maes i roi rhagor o gapasiti i ni.”

Sylwadau “chwithig”

Yn ystod y gynhadledd, mi gododd cwestiwn am lythyr diweddar gan Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart, at Aelodau o’r Senedd ac arweinwyr cynghorau Cymru.

Yn y llythyr mae’n galw arnyn nhw i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi rhagor o fanylion ynghylch aildanio’r diwydiant dwristiaeth.

Mae Vaughan Gething wedi galw’i sylwadau yn “chwithig”.

“Mae Ysgrifennydd Cymru yn ddigon lwcus i beidio gorfod gwneud penderfyniadau yng Nghymru,” meddai.

“Dw i’n credu y byddai’n well i bob un ohonom pe bai Ysgrifennydd Cymru yn trafod â Llywodraeth Cymru mewn ffordd fwy adeiladol.”

Ailagor y siopau ddydd Llun?

Bydd Mark Drakeford yn gwneud ei gyhoeddiad am 12:30pm yfory

Ers y gynhadledd, mae BBC Cymru Fyw wedi adrodd fod disgwyl i’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, gyhoeddi yfory y caiff siopau ailagor ddydd Llun.

Bydd y Prif Weinidog yn gwneud ei gyhoeddiad am 12:30pm yfory, yng nghynhadledd newyddion ddyddiol Llywodraeth Cymru.

Ystadegau diweddaraf

Cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw fod pump yn rhagor wedi marw ar ôl profi’n bositif am Covid-19, gan fynd â chyfanswm nifer y marwolaethau i 1,471, tra bod cyfanswm yr achosion wedi cynyddu 48 i 14,970.