Fe fydd dyn 42 oed, yn mynd gerbron llys yn Abertawe heddiw (dydd Iau, Mehefin 18) ar gyhuddiad o gynnau tân yn fwriaodl a pheryglu bywyd.

Cafodd Nathan Lee Jones, 42,  o Golwg y Castell, Aberteifi ei arestio ynghyd â llanc 17 oed a merch 16 mlwydd oed  yn dilyn tân yn Stryd y Castell yn oriau man dydd Mawrth (Mehefin 16).

Bu’n rhaid i drigolion sawl eiddo gael eu symud o’u cartrefi fel rhagofal a chafodd y stryd ei chau. Ni chafodd unrhyw un eu hanafu.

Mae’r llanc 17 oed a merch 16 mlwydd oed wedi cael eu rhyddhau ar fechniaeth.