Mae yna “frwdfrydedd” ynghylch y posibiliad o ailddechrau cynnal rhywfaint o fusnes y Senedd oddi ar y we.
Dyna ddywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, mewn cynhadledd i’r wasg brynhawn heddiw.
Ers mis Ebrill mae sesiynau’r Senedd – gan gynnwys cyfarfodydd pwyllgorau, a’r cyfarfod llawn – wedi cael eu cynnal yn rhithiol dros y we.
Ac mae sawl Aelod o’r Senedd wedi codi pryderon am y drefn yma gan ddadlau nad oes modd craffu’n iawn ar y Llywodraeth.
Yn ogystal â’i gwaith fel Gweinidog, mae Rebecca Evans yn aelod o bwyllgor busnes y Senedd, ac mi gynigodd ddiweddariad am y sefyllfa ar dydd Iau.
“Rydym wedi bod yn ystyried beth allwn wneud er mwyn dychwelyd yn ddiogel i’r Senedd ar gyfer sesiynau hybrid,” meddai. “Felly 20 Aelod yn y siambr, o bosib, a 40 dros gyswllt fideo…
“Rydym wrthi’n gweithio ar hyn. Mae gennym frwdfrydedd am botensial hybrid.”
Newidiadau
Pe bai’r fath sustem yn cael ei gyflwyno, dywedodd y byddai angen sicrhau na fyddai cyfranwyr rhithiol “dan anfantais”.
“Rhaid i ni wneud yn siŵr bod y profiad yr un fath,” meddai. “Mae’n bwysig bod pobol yn medru cynrychioli safbwyntiau pobol eu hetholaeth yn y ffordd fwyaf cadarn a gonest posib.”
Awgrymodd hefyd y byddai’n haws gwneud penderfyniad ar y mater wedi i’r cyfyngiad teithio pum milltir gael ei lacio – mae disgwyl i hynny ddigwydd ar Orffennaf 6.
Pryderon am y drefn
Mae sawl Aelod o’r Senedd eisoes wedi galw am aildanio sesiynau yn y siambr yn y cnawd.
Brynhawn ddoe cafodd Neil McEvoy ei dynnu oddi ar y cyfarfod llawn rhithiol am ei fod wedi penderfynu ffrydio o’r siambr.
Yn siarad â’r wefan hon mae Mike Hedges wedi dweud bod y drefn “ddim yn gweithio”.