Mae Aelod o’r Senedd wedi cael ei geryddu am gymryd rhan yn y cyfarfod llawn o siambr y Senedd.

Yn ymateb i’r argyfwng coronafeirws, ers mis Ebrill mae busnes y Senedd wedi cael ei gynnal ar y we, ac mae ansicrwydd o hyd ynghylch pryd bydd yr hen drefn yn dychwelyd.

Mae sawl Aelod o’r Senedd wedi codi pryderon am y sustem rithiol gan ddadlau nad oes modd craffu yn iawn ar waith y Llywodraeth, ac yn eu plith mae Neil McEvoy.

Neil McEvoy
Neil McEvoy

Brynhawn heddiw, penderfynodd fynd i’r siambr ym Mae Caerdydd ac ymuno’r cyfarfod llawn rhithiol o’r fan yno. Yn ymateb i hynny, cafodd ei wahardd o’r sesiwn.

“Dw i’n ymwybodol bod un Aelod yn y siambr, yn ffilmio ei hun, ac yn darlledu hynny ar gyfryngau cymdeithasol,” meddai’r llywydd, Elin Jones, yn ystod y sesiwn.

“Bydda’ i’n gofyn bod yr Aelod hwnnw yn cael ei dynnu oddi ar y senedd rithiol, a byddwn yn cau’r siambr maes o law. Fy nghyngor i Nel McEvoy yw i beidio â chwarae gemau â’i senedd.”

Mae Neil McEvoy wedi ymateb i’r penderfyniad i’w wahardd o’r sesiwn trwy gyhuddo’r Llywydd o dorri’r rheolau sefydlog.

Pam aeth e’ i’r siambr?

“Mae Holyrood, Stormont a San Steffan i gyd ar agor, ond nid felly Senedd Cymru,” meddai Neil McEvoy cyn sesiwn heddiw.

“Mae hyn yn anfon neges wael i bobl Cymru. Mae’n datgan bod yn rhaid i chi fynd yn ôl i’ch gweithle ond dydyn ni – y gwleidyddion sy’n gwneud y rheolau hyn – ddim yn hollol barod eto…

“Sut all gwleidyddion anfon plant yn ôl i’r rheng flaen, ond aros adref yn ddiogel dan glo eu hunain? Mae hyn yn dangos diffyg arweinyddiaeth. Dylai gwleidyddion fod yn arwain trwy esiampl.

“Mae’r plant yn ôl yn yr ysgol yr wythnos nesaf, felly rydw innau’n dychwelyd i’r gwaith wythnos o’u blaenau.”