Dylid rhoi diwedd ar gynnal holl weithgarwch y Senedd ar-lein, yn ôl un o’r rheiny sydd wedi blino â’r drefn.

Ers dechrau’r cyfnod clo mae sesiynau’r pwyllgorau a’r siambr – gan gynnwys sesiwn holi’r Prif Weinidog – wedi bod yn cael eu cynnal yn rhithiol.

Ac mae sawl Aelod o’r Senedd eisoes wedi rhannu eu rhwystredigaeth am hyn, gan awgrymu nad oes modd craffu ar y Llywodraeth yn iawn dan y fath drefn.

Un o’r rheiny sydd wedi diflasu â sesiynau rhithiol y siambr yw Mike Hedges, yr Aelod o’r Senedd tros Ddwyrain Abertawe, ac mae yntau’n galw am gyflwyno sustem “hybrid”.

“Dyw hyn ddim yn gweithio,” meddai wrth golwg360. “Dyw pethau ddim yn digwydd ar hap yn yr un ffordd. A dyw pobol ddim yn torri ar draws ei gilydd i’r un graddau.

“Dyw’r teimlad ddim cweit yna, o fod mewn cyfarfod. Wnes i araith yr wythnos ddiwetha’ a oedd, yn fy marn i, yn dda iawn. Efallai wnewch chi anghytuno â fi! Ond ges i ddim ymateb iddi.

“Doeddwn i ddim callach os oedd pobol yn ei hoffi ai peidio. Doedd dim torri ar draws. Neb yn gweiddi ‘rubbish’ ata’ i! Dim o hynna. Roedd yr araith jest yn teimlo fel siarad i gamera.”

Yn ôl Mike Hedges fe ddylai rhai Aelodau o’r Senedd fod yn cymryd rhan yn rhithiol, a bod rhai yn y siambr – ond yn parchu’r rheol dau fetr.

Pwyllgorau yn plesio

Mae Mike Hedges yn gadeirydd ar Bwyllgor yr Amgylchedd, ac mae hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog, a’r Pwyllgor Cyllid.

Ac er gwaetha’ ei rwystredigaeth ynghylch sesiynau rhithiol y siambr, mae’n eitha’ hapus â defnydd y dechnoleg mewn cyfarfodydd pwyllgor.

“Mae pwyllgorau yn gweithio yn dda,” meddai. “A dweud y gwir, dw i’n medru gweld pwyllgorau – yn rhannol, o leia’ – yn parhau â’r fformat yma o ddefnyddio Zoom.

“Pam llusgo pobol o bob rhan o Gymru i’w holi – ynghyd ag eraill – am awr, ac yna’u hanfon adref unwaith eto? Siwrne naw awr, ar gyfer sgwrs awr, lle efallai gewch chi siarad am ddeg [munud].”

Mae’n teimlo bod pobol yn fwy parod i gymryd rhan a rhannu tystiolaeth am nad oes angen teithio i Gaerdydd i wneud hynny.

Ymateb y Senedd

“Mae’r Llywydd mewn cydweithrediad â’r Pwyllgor Busnes yn edrych yn gyson ar y ffordd orau o gynnal busnes y Senedd mewn modd sy’n cyd-fynd â chanllawiau iechyd cyhoeddus,” meddai llefarydd ar ran y Senedd.

“Mae’r Senedd rithiol wedi caniatáu Aelodau a Phwyllgorau i barhau â’i gwaith o graffu ar y Llywodraeth drwy gyfnod yr argyfwng.

“Ymysg y camau nesaf dan ystyriaeth mae model o Senedd hybrid. Bydd cadarnhad o unrhyw benderfyniad yn digwydd ar ôl cyhoeddiad nesaf y Prif Weinidog ar Fehefin 19.”