Dylan Iorwerth sy’n trafod gwaddol caethwasiaeth … a Chymru…
Mae yna blasty hardd heb fod ymhell o’r A40 rhwng Hwlffordd ac Abergwaun. Lle tawel, gwâr, anodd ei gysylltu efo milwr dienaid a llywodraethwr creulon.
Yno yr oedd cartre’ teulu Syr Thomas Picton, ‘arwr’ Waterloo. Yno y byddai wedi ei eni ond fod gwaith yn cael ei wneud ar y plasty ar y pryd, ac oddi yno yr aeth i India’r Gorllewin i ‘wneud ei enw’.
Wrth wneud rhaglen, a gafodd ei dangos eto ar S4C neithiwr (nos Iau, 11 Mehefin), mi fuon ni yno ac wedyn yn Nhrinidad, un o ynysoedd mwya’ deheuol India’r Gorllewin. Dau fyd cwbl wahanol heddiw, ac ar ddechrau’r hen hen ganrif..
Mi wnaeth Thomas Picton enw iddo fo’i hun yn y Caribî; cyn rhyfeloedd Ffrainc a Sbaen a Waterloo, drwg-enw oedd hwnnw. Roedd ymhell o fod yn ‘arwr’.
Does dim amheuaeth ei fod yn galed a chreulon; ar ôl dod yn Llywodraethwr ar Trinidad, mi waethygodd amodau caethion a dyblu eu nifer ar yr ynys.
Ac mi ddaeth Thomas Picton i sylw’r byd ar ôl arwyddo gorchymyn i ddynes ifanc rydd, gymysg ei hil, gael ei phoenydio’n ddychrynllyd mewn ymchwiliad ynglŷn â lladrata.
Mae’n weddol amlwg, felly, na ddylen ni fod yn dathlu bywyd y fath ddyn ac, yn ein dyddiau ni, bod cadw cerfluniau iddo fo mewn mannau cyhoeddus yn gywilydd ac yn brifo.
Ond mae yna broblem
Er fod angen iddo fo ddysgu mwy am amodau trefedigaethol cynnar ei wlad ei hun, roedd Gweinidog Iechyd Cymru, Vaughan Gething, yn hollol gywir ar y rhaglen Question Time neithiwr i leisio pryder bod yr holl gyhoeddusrwydd i gerfluniau yn tynnu sylw oddi wrth yr hiliaeth go-iawn.
A’n nabod ni, wynion breintiedig, rhyddfrydol, mi fyddwn yn meddwl bod popeth yn OK unwaith eto os cawn ni wared ar ambell symbol o’r gorffennol a mwmial ymddiheuriadau.
Mewn ffordd dyna’r broblem efo Thomas Picton hefyd. Am flynyddoedd, pan oedd o’n Llywodraethwr ar Trinidad, roedd ei weithgareddau yn crogi milwyr anystywallt a phoenydio a lladd caethweision anufudd yn siwtio Llywodraeth Prydain yn iawn.
Ar y pryd, ynghanol rhyfel efo Sbaen, doedd Trinidad ddim yn swyddogol yn rhan o’r Ymerodraeth ac roedd Picton wedi cael cyfarwyddyd i lywodraethu dan ddeddfau Sbaen. Y dasg fwya’ oedd dod â threfn i’r ynys. Roedd ei fosys yn Llundain yn ddiolchgar.
Ar ôl diwedd y rhyfel, yn annisgwyl, mi ddaeth Trinidad i ddwylo Prydain Fawr yn barhaol ac mi newidiodd y disgwyliadau. Mi ddaeth creulondeb Picton yn rhan o’r ymgyrch yn erbyn caethwasiaeth … mi ddaeth o’n symbol.
A dyna’r broblem. Mae’n iawn beirniadu Picton ac Edward Colston a’u tebyg, ond mae canolbwyntio’n llwyr arnyn nhw mewn peryg o wneud inni anghofio’r cefndir. Roedden nhw’n rhan o system a phrosiect ymerodrol oedd wedi ffynnu trwy rai fel nhw.
Mi lifodd arian caethwasiaeth i’r diwydiant copr yng Nghymru (o Abertawe i Amlwch) ac mi wnaeth o hyd yn oed gyrraedd pocedi ffermwyr defaid Meirionnydd yn dâl am y gwlân i wneud carthenni ar longau’r fasnach … heb sôn am bocedi tirfeddianwyr, pobol fusnes a meistri’r diwydiant llechi.
Arian caethwasiaeth oedd sylfaen llawer o gyfoeth gwledydd Prydain … i ddileu’r arwyddion go-iawn o hynny, mi fyddai’n rhaid dinistrio llawer o adeiladau crandia’ dinasoedd mwya’ Lloegr a’r Alban ac ambell i blasty yng Nghymru.
Mae hyn i gyd yn wir hefyd am yr ormes ofnadwy oedd ar India – ei chyfoeth hi a greodd lawer o Lundain heddiw – ac am y fasnach efo’r Unol Daleithiau, Canada ac Awstralia a grëwyd ar gefn brodorion y gwledydd hynny.
A dyna’r gwir annifyr … mae’n rhaid dymchwel llawer mwy na cherflun Syr Thomas Picton. Ac, os eu dymchwel nhw, rhoi rhywbeth yn eu lle sy’n cyfleu ochr arall y stori.