Yn ôl y bardd, llenor a cherddor, Iestyn Tyne, mae diffyg mawr yng nghynnwys maes llafur TGAU.

Trodd y bardd at Twitter i fynegi ei bryder fod prinder beirdd benywaidd ym maes llafur Llenyddiaeth Gymraeg.

“Rhyfeddol gweld bod na lai o fenywod ar y syllabus nag oedd ‘na pan nes i fy TGAU… a dim ond dwy oedd bryd hynny!” meddai.

Dywedodd Iestyn Tyne wrth Golwg360 ei fod wedi astudio ei TGAU yn 2013 pan oedd dwy fenyw ar y maes llafur.

“Y syndod mwyaf falle ydi deall bod y maes llafur wedi ei weddnewid yn llwyr ers hynny” meddai “a bod y sefyllfa nid yn unig heb wella, ond wedi gwaethygu.

“Mae cydbwysedd ar sail rhywedd y math mwyaf sylfaenol o gydraddoldeb – pa obaith sydd i fynd i’r afael â diffygion y maes llafur yn nhermau gweladwyedd pobl LHDTC+ a phobl o liw os oes yna fethiant i gyflawni hyd yn oed hynny?”

Anghyfiawnder â’r byd barddol Cymraeg

Yn ôl y bardd o Ben Llŷn, os am weld pobl ifanc o bob cefndir yn meithrin diddordeb mewn barddoniaeth Gymraeg, ac o bosib yn mynd ymlaen i astudio’r pwnc fel pwnc safon uwch neu hyd yn oed fel gradd, y peth cyntaf sydd yn rhaid ei wneud yw sicrhau bod meysydd llafur fel hyn yn siarad â nhw.

“Yn gwneud iddyn nhw deimlo a deall eu bod yn perthyn a bod yna bobl fel nhw wrthi’n ysgrifennu ac yn mynegi eu profiadau mewn cerddi.

“Mae’r bobl hynny yn bodoli, ac mae’n rhwystredig ofnadwy nad ydyn nhw i’w gweld ar gyfyl yr hyn sydd i fod i gael ei ddysgu yn yr ysgolion.

“Mi ellid maddau i rhywun am gredu, o edrych ar y rhestr gyfredol o feirdd, mai pobl wyn, wrywaidd, ddosbarth canol, heterorywiol a chydryweddol sy’n diffinio ein llên.

“Nid yw hynny’n agos at y gwir ac mae’r portread yn un sy’n gwneud anghyfiawnder â’r byd barddol Cymraeg sydd ohoni.”

CBAC

Mewn ymateb, dywedodd bwrdd rheoli CBAC;

“Er bod CBAC yn nodi 10 cerdd osod yn yr uned ar farddoniaeth nid yw cynnwys yr uned hon wedi ei gyfyngu i’r cerddi hynny. Mae’n rhaid i ganolfannau gyflwyno amrediad ehangach o lawer na hynny i’w disgyblion gan fod disgwyl iddynt yn yr arholiad gymharu un o’r cerddi gosod gyda cherdd nas astudiwyd o’r blaen. Rhoddir y rhyddid i athrawon ac anogir hwy’n gyson i ddewis amrywiaeth o gerddi i’w cymharu gyda’r cerddi gosod gan roi digon o gyfleoedd i’w disgyblion i wneud hyn.

“Un uned o bedair yw’r uned hon ar farddoniaeth. Yn yr uned ar y nofel, mae hanner yr awduron yn fenywod ac yn Uned 3 – Llunyddiaeth mae’r testunau i gyd a gynigir yn seiliedig ar waith gan fenywod.  Yn uned 4 lle astudir straeon byrion a dramâu – mae yna ddewis cyfartal o waith gan fenywod a dynion ar gyfer y straeon byrion. Ar gyfer y dramâu – mae rhyddid gan athrawon i ddewis testun eu hunain sy’n addas i’w disgyblion.

“Yn sgil y newidiadau i’r cwricwlwm newydd yng Nghymru bydd rhaid diwygio manylebau TGAU. Bydd ymgynghoriad yn digwydd fis Rhagfyr yn canolbwyntio ar gynnwys cymwysterau. Bydd hyn yn gyfle arbennig o dda i ystyried eto yr amrywiaeth o destunau a gynigir yn y fanyleb TGAU Llenyddiaeth Gymraeg.”

Ond, siomedig yw’r datganiad gan CBAC meddai Iestyn Tyne.

“Mae’n rhoi’r onus ar athrawon i fod yn cymryd cyfrifoldeb dros wella maes llafur diffygiol.

“Y gwir amdani ydi bod rhaid i’r cerddi craidd yna fod yn gynrychioladol fel man cychwyn a sail gadarn i astudio, ac mae gan CBAC y grym i sicrhau hynny ym mhob ysgol ar hyd a lled y wlad.”