Ddechrau’r wythnos roedd Bethan Gwanas mewn coedwig ger Llanuwchllyn yn arwyddo copïau o’i nofel newydd Merch y Gwyllt, sy’n ddilyniant i’w nofel boblogaidd Gwrach y Gwyllt.

Fe drefnwyd y digwyddiad gan Gwyn Siôn Ifan, rheolwr siop Gymraeg Awen Meirion yn y Bala, i dynnu sylw at y ffaith ei bod yn Wythnos Siopau Llyfrau Annibynnol.