Gyda chleber a chloncan yn digwydd fwyfwy ar gyfryngau cymdeithasol, yn enwedig yn ystod y cyfnod cloi, dyw hi ddim wir yn syndod bod yna fynd go-iawn ar grŵp iaith ar Facebook.
Fe sefydlodd y Dr Guto Rhys, ieithydd ac arbenigwr ar ieithoedd Celtaidd, y grŵp ‘Iaith’ ar Facebook tua 2012 er mwyn bwydo ei hobi o astudio sut y mae pobol yn siarad, a sut y mae geiriau yn amrywio o un cwr o’r wlad i’r llall.
Mae’r grŵp yn hynod boblogaidd ac yn ennyn ymateb gan bobol o dramor – mae 8,677 o aelodau.
Yn ddyddiol, fe fydd Guto Rhys ac eraill yn postio llun a chwestiwn yn ymwneud â gair, a gofyn i bobol a yw’n gyfarwydd iddyn nhw. O dan y drafodaeth ar y gair ‘Hedge’ ym mis Ebrill 2019, er enghraifft, mae yna 148 o sylwadau, a thrafod mawr ar ba mor bell o Sir Drefaldwyn y mae’r gair ‘shetin’ yn ei gyrraedd, cyn i ‘gwrych’, ‘clawdd’ neu ‘berth’ ei ddisodli.
Nawr mae’r ieithydd wedi cyhoeddi llyfr o’r enw AmrywIAITH – Blas ar Dafodieithoedd Cymru, yn seiliedig ar drafodaethau’r grŵp. Mae’n diolch i’r 850 o ‘gyfranwyr’ yn y cefn.
Mae Guto Rhys yn cydnabod yn y Cyflwyniad nad astudiaeth ysgolheigaidd yw’r llyfr, ac nad “mater o wrando’n astud ar yr hen do wrth aelwyd wresog neu stilio gwraig ffarm mewn beudy neu gyn-löwr yn ei gegin yw”. Serch hynny, “mae yma gyfoeth anferthol a rhaid ei gofnodi rywsut”, meddai.
Cafodd yr awdur ei fagu yn Llanfairpwllgwyngyll i rieni o’r Wyddgrug a Chaerwys. Astudiodd ambell iaith Geltaidd ym Mhrifysgol Bangor ac yna dal ati i ymhél ag ieithoedd dros y degawdau wedyn, a dysgu’r ieithoedd y gwledydd y buodd yn byw ynddyn nhw – Llydaw, Sbaen a Gwlad Belg.
Pa mor ddibynadwy yw iaith siaradwyr Cymraeg Facebook heddiw, a’r boblogaeth yn llawer mwy symudol nag yr oedd hi?
“Y gwir ydi, does yna neb wir yn hollol ddibynadwy achos mae iaith o hyd yn newid,” meddai Guto Rhys. “Mae yna symudiadau pobloedd wedi bod o hyd; mae yna uchelwyr wedi bod mewn cyswllt â’i gilydd, offeiriaid yn symud ac ati – dyna pam mae iaith yn newid. Tasech chi’n cymryd unrhyw gymdeithas mewn iaith fyw, mi fyddech chi’n gweld amrywiaeth.”
Mae cwyno am safon iaith siaradwyr Cymraeg y dyddiau yma yn fater dadleuol yn ei hun. Yn ôl Guto Rhys yn ei Gyflwyniad i AmrywIAITH, byddai iaith prif lenorion yr ugeinfed ganrif fel Gwenallt neu Kate Roberts wedi bod yn “fratiaith garbwl wedi mabwysiadu peth wmbreth o eiriau Saesneg diangen” i ieithydd fel William Morgan ganrifoedd ynghynt. “A Duw a ŵyr beth a feddyliasai Maelgwn Gwynedd am ieithwedd lwgr Canu Llywarch Hen,” meddai. “Rhywbeth organig yw pob iaith fyw.”
Mae pwrpas arall i’r grŵp ar Facebook, sef atgoffa pobol o gyfoeth eu hiaith. Dyma enghraifft o gwestiwn a roddodd ar y grŵp yn ddiweddar: ‘MÁSLAW. Gogledd Penfro. Ydy hwn yn gyfarwydd i chi?’ (Mae wedi codi’r gair o A Glossary of the Demetian Dialect of North Pembrokeshire o 1910 – un o’r llyfrau ar dafodieithoedd Cymru sy’n sail i’w ymchwil.) Ymhlith yr atebion yr oedd: ‘Myslaw – de Ceredigion’; ‘Odi, hollol gyfarwydd – Cwm Gwaun, Sir Benfro’; a ‘Dyna fyddai fy nhad yn dweud – Llanddewibrefi.’
“Un amcan ydi bod o gymorth i bobol gyfoethogi eu hiaith ac atgoffa pobol,” meddai Guto Rhys.
“Er mwyn i iaith barhau mae’n rhaid iddi hi fedru ymdopi efo pob agwedd ar fywyd. Un o’r amcanion fan hyn ydi eich bod chi’n hwyluso hynny i’r bobol sy’n darllen. Mae pobol yn dweud, ‘duwcs, ro’n i’n dweud hynny pan o’n i’n fach, ond ddim bellach’, neu ‘mae Nain yn dweud hyn a’r llall’.”
Nid yw sylwadau anwybodus neu ddifeddwl yn bethau prin ar gyfryngau cymdeithasol. Sut brofiad felly yw dewis a dethol sylwadau gan filoedd o siaradwyr Cymraeg ar Facebook? “Rhaid dweud bod bron pawb yn gwrtais ac yn gall,” meddai. “Ychydig iawn o ddadlau gwirion sydd wedi bod. Mae hi’n braf dros ben darllen y sgyrsiau.
“Mae’n rhaid i chi fod yn ofalus iawn faint o goel rydach chi’n ei roi ar beth mae pobol yn ei ddweud. I raddau, mae hyn yn wir am astudiaethau tafodieithol mewn ieithoedd eraill, lle mae pobol yn dueddol o roi’r hyn maen nhw’n meddwl sy’n urddasol neu’r hyn maen nhw’n meddwl y mae’r ymchwilydd ar ei ôl. Mae gan bawb dipyn bach o hang-yps am ei iaith, ymhob iaith bron a bod, yn enwedig yn y Gymraeg.”
Fodd bynnag, mae’r ieithydd yn cydnabod ei bod hi’n gallu bod yn heriol iawn ceisio crynhoi’r miloedd o sgyrsiau ar gyfer sgrifennu llyfr.
“Mae’n fater eitha’ hunllefus trio dod â phob dim at ei gilydd,” meddai Guto Rhys. “Mae ambell un yn rhoi ynganiadau mewn sgript ffonetig ddwys… Mae pobol eraill yn rhyw ddyfalu sut mae cyfleu rhywbeth yn eu tafodiaith eu hunain. Mae eisio trïo cael rhyw gysondeb heb eich bod chi’n golygu gormod. Ond mae cael trefn ar gant o sylwadau gwahanol yn anodd, ond mae o wedi cael prawf ddarllenwyr da.”
O ran y gwaith ar ystyron a gwreiddiau geiriau yn y llyfr, ni fu’n rhaid iddo wneud gwaith ymchwil trwm am ei fod yn gyfarwydd â’r maes yn ei waith academaidd. “Dyma ydi fy maes i i raddau helaeth – ieithyddiaeth Geltaidd, Indo-Ewropeaidd ac ati,” meddai Guto Rhys, a fu am gyfnod yn darlithio ar iaith y Pictiaid yn yr Alban ym Mhrifysgol Glasgow. “Dw i’n siarad Cernyweg, Llydaweg a chryn dipyn o Aeleg yr Alban, wedyn mae’r llyfrau i gyd yma gen i fan hyn.”
Dim ond tua 50 o’r trafodaethau cyntaf y mae wedi eu crynhoi ar gyfer y llyfr, ac mae gan y grŵp “filoedd” o drafodaethau erbyn hyn. “Mae yna ddeunydd am ddegau o lyfrau,” meddai. “Yn bethau sydd heb eu casglu o’r blaen.”
Y ‘LGW’ – a welwn ei debyg eto?
Yr ymdrech fawr ddiwethaf i fapio’r defnydd o eiriau tafodieithol Cymraeg ar lefel genedlaethol oedd gwaith Alan R Thomas, The Linguistic Geography of Wales, a gafodd ei gyhoeddi yn 1973. Yr adeg hynny, roedd rhan helaeth y boblogaeth wedi byw yn eu bröydd ers cenedlaethau.
Ni welwn ni astudiaeth debyg iddi eto, yn ôl Guto Rhys – ond mae angen astudiaeth fwy trylwyr erbyn heddiw.
“Mae yna wahaniaethau a newidiadau enfawr ers cyhoeddi hwn,” meddai Guto Rhys. “Mae’n astudiaeth arbennig o dda. Yr unig beth ydi, tydi hi ddim yn gwneud ynganiadau, ond yn edrych fwy neu lai ar ddosbarthiadau geirfa… Efallai cewch chi wybod fod rhywun yn Sir y Fflint, a rhywun yn Harlech, yn dweud ‘ymadael’, ond eto mae yna bob math o wahaniaethau sydd ynghudd. Efallai fyddech chi’n dweud ‘madel’ yn Sir y Fflint, ond ‘madael’ yn Harlech… felly dydach chi ddim yn gwybod lle mae eu dosbarthu nhw.
“Dim ond i semantegydd neu i lecsicograffwr mae hwn yn ddefnyddiol; dydi o ddim mor ddefnyddiol i rywun fyddai’n astudio seineg. Mae’r llyfrau cyfatebol yn y Llydaweg yn fanwl iawn o ran ynganiad felly mae modd turio’n ddyfnach o lawer i dafodieithoedd a newid iaith ac ati.
“Mae o hefyd yn weddol gyfyng; dydi o ddim wedi mynd ar ôl cystrawen. Geirfa ydi o bron yn gyfan gwbl. Mi gewch chi astudiaethau tafodieithol sy’n edrych ar yr holl sbectrwm o iaith. Ond mae o’n llyfr gwych, a ddaw yna ddim byd tebyg eto.”
Casglu 24,000 o englynion
Mae Guto Rhys yn cynnal grŵp arall ar Facebook, sef ‘Englynion Bedd’, ac yn sgrifennu colofn i gylchgrawn Barddas am y gwaith casglu. Hyd yma, mae wedi casglu 24,000 o englynion sydd wedi eu harysgrifio ar feddau o gwmpas Cymru gyda help eraill sy’n ymddiddori yn y maes. Y gobaith yw bydd posib eu digideiddio i gyd, gyda llun o’r garreg fedd, yn amodol ar gefnogaeth ariannol.
“Mae yna gofnod cymdeithasol anferth yma,” meddai Guto Rhys. “Yng Nghymru, prin iawn ydi’r llefydd yn y wlad lle na fyddech chi o fewn milltir neu ddwy o englyn bedd.”
Er ei fod yn gallu enwi 11 o gasgliadau gwahanol o englynion bedd (roedd yna hyd yn oed gystadleuaeth yn Cymru’r Plant ar un adeg), nid oes unrhyw un wedi crynhoi’r wybodaeth erioed, meddai. “Yr ardaloedd cyfoethocaf ydi ardaloedd y chwareli,” meddai. “Mae wedi bod yn rhan greiddiol o brofiad bywyd cannoedd o filoedd o bobol.”