Fe wnaeth cymdogion helpu i dynnu dynes a dau blentyn ifanc o rwbel tŷ oedd wedi dymchwel yn dilyn ffrwydrad ym Mlaendeulais ger Castell Nedd.
Yn ôl yr heddlu, dioddefodd ddynes o’r enw Jessica Williams, 31, a’i meibion sy’n ddwy a phump oed anafiadau difrifol yn y ffrwydrad ddydd Mercher (Mehefin 24).
Mae beth wnaeth achosi’r ffrwydrad yn dal i gael ei ymchwilio.
Dywed y Cynghorydd Cymunedol Gary James, sy’n byw 300 metr i ffwrdd o’r tŷ, fod grŵp o bobol gan gynnwys cyn-ddyn tân, Jeff Davies, wedi brysio i helpu’r teulu.
“Sioc fawr i’r gymuned”
“Dwi erioed wedi clywed ffrwydrad mor uchel, ac rwyf yn gobeithio wnâi ddim eto,” meddai wrth BBC Radio Cymru.
“Mae’n sioc fawr i’r gymuned ac yn amlwg rydym yn cydymdeimlo â’r teulu ifanc oedd yn byw yno”.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r pentref am 2:05 yr hwyr ddydd Mercher, gyda’r ddau blentyn yn cael eu cludo i Ysbyty Southmead mewn ambiwlans awyr ym Mryste a’r fam i Ysbyty Treforys yn Abertawe.
Bu i dai eraill gael eu difrodi’n sgil y ffrwydrad a chafodd 14 o gartrefi eu gwagio.
Dywed llefarydd ar ran Heddlu De Cymru: “Gall Heddlu De Cymru gadarnhau bod 3 person wedi eu hanafu mewn digwyddiad ddoe; dynes 31 oed, a dau fachgen pump a dwy oed.
“Mae’r heol yn dal i fod ar gau ar rydym yn dal i ofyn i bobol osgoi’r ardal.
“Rydym yn ymchwilio beth wnaeth achosi’r ffrwydrad.”