Mae’r incwm blynyddol a ddaw i’r Tywysog Charles drwy Ddugiaeth Cernyw wedi codi bron i 3% i £22.2m eleni.
Serch hynny, mae disgwyl iddo ddisgyn “yn sylweddol” y flwyddyn nesaf oherwydd pandemig y coronafeirws.
Charles sy’n cael y warged (yr arian sydd dros ben) a gynhyrchir gan y portffolio enfawr o dir, adeiladau, a buddsoddiadau ariannol sy’n berchen i’r Ddugiaeth.
Yn 2019-20, by cynnydd o £617,000 (2.9% ) yn incwm preifat blynyddol y Tywysog o’r ystad etifeddol – hynny yw, o £21,627,000 yn 2018-19 i £22,244,000 eleni.
Yn adroddiad Blynyddol y Ddugiaeth, a gyhoeddwyd ddydd Iau, mae Alastair Martin, Ysgrifennydd a Cheidwad y Cofnodion, yn tynnu sylw at yr incwm y gallai Charles ei golli’r flwyddyn nesaf:
“O ran 2020-21, mae’n rhy gynnar yn y flwyddyn ariannol newydd i allu dweud gydag unrhyw hyder beth fydd yr effaith -pandemig y coronafeirws] ar ein perfformiad ariannol, ond, er bod gennym sylfaen asedau sy’n arbennig o amrywiol, rydym yn llwyr ddisgwyl i’r gwarged refeniw fod yn is o lawer, i raddau helaeth oherwydd bod ein mentrau masnachu wedi cael eu cau.”
Ychwanegodd Mr Martin: “Nid ydym wedi manteisio ar wahanol gynlluniau cymorth pandemig y Llywodraeth ond rydym wedi parhau i dalu’r holl staff.”