Mae corff wedi cael ei ddarganfod yn Nhywyn gan heddlu sy’n ymchwilio i ddiflaniad dyn 71 oed o Geredigion.

Dros y penwythnos mi apeliodd Heddlu Dyfed-Powys am wybodaeth yn gysylltiedig ag Alan Hurley o Aberteifi.

A datgelodd yr heddlu bod ei jîp Grand Cherokee marŵn wedi ei ddarganfod mewn maes parcio yn Aberporth, Ceredigion.

Mae’r heddlu yn credu bod y car wedi bod yno am rai diwrnodau cyn y penwythnos.

Bellach mae swyddogion wedi dod o hyd i gorff dyn ar draeth yn Nhywyn, ond dyw’r broses o adnabod y corff ddim wedi ei gynnal eto.

Mae teulu Alan Hurley wedi cael gwybod am y datblygiad, ac mae’r heddlu wedi rhannu eu cydymdeimladau â nhw.