Cafodd bron i 30 o swyddogion yr heddlu eu hanafu wedi gwrthdaro mewn parti ar stryd yn Brixton, yn ne Llundain yn ôl yr heddlu.

Mae lluniau ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos cerbydau’r heddlu’n cael eu difrodi a photeli’n cael eu taflu at yr heddlu yn dilyn gwrthdaro rhwng yr heddlu a thorf o bobl ger stad yn Brixton.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref Priti Patel bod y digwyddiad yn “gywilyddus” ac mae hi wedi dweud y bydd yn trafod y mater gyda Chomisiynydd yr Heddlu Metropolitan, Cressida Dick.

Yn ôl yr heddlu fe gawson nhw eu galw wedi adroddiadau bod digwyddiad yn cael ei gynnal yn Heol Overton nos Fercher (Mehefin 24) a bod swyddogion wedi “ceisio annog y dorf i adael.”

Roedd y digwyddiad wedi parhau a chafodd rhagor o swyddogion yr heddlu eu galw i’r safle ac fe ddechreuodd y grŵp ymddwyn yn dreisgar tuag at yr heddlu, meddai Scotland Yard mewn datganiad.

Bus driver Michael, who did not wish to share his second name, lives in Overton Road and said it was “very upsetting” that the violence happened in his area.

Cafodd pedwar o bobl eu harestio ar gyhuddiadau o ymosod a throseddau’n ymwneud a’r drefn gyhoeddus.

Bu’n rhaid i ddau o’r plismyn gael triniaeth yn yr ysbyty.