Gallai asgellwr Cymru David Brooks fod yn holliach ar gyfer gêm Bournemouth yn erbyn Bristol City yn y Bencampwriaeth nos fory (nos Fercher, Hydref 28).

Mae’r asgellwr wedi bod ar y cyrion yn ddiweddar oherwydd cyfuniad o salwch ac anafiadau ers yr egwyl ryngwladol ddiwethaf.

Ond mae Bournemouth yn gobeithio y bydd yn ddigon ffit i chwarae rhan yfory, wrth iddyn nhw geisio dod â rhediad o dair gêm gyfartal yn olynol i ben gyda buddugoliaeth.

Roedd un o’r gemau cyfartal yn erbyn Caerdydd.

Gallai fod yn gêm bwysig wrth siapio’r tymor, gyda Bristol City yn ail yn y Bencampwriaeth, un pwynt a dau safle uwchben Bournemouth.