Ar drothwy’r clo dros dro, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi bod 45 o bobol wedi marw yng Nghymru o ganlyniad i Covid-19 yn ystod yr wythnos ddiwethaf.

Bydd Cymru’n cychwyn ar glo dros dro am bythefnos am chwech heno [dydd Gwener 23 Hydref] mewn ymgais i ddiogelu’r Gwasanaeth Iechyd rhag cael ei lethu gan ail don o’r coronafeirws.

Yn ystod cynhadledd i’r wasg brynhawn yma, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, fod nifer y cleifion yn yr ysbyty â symptomau coronafeirws wedi dyblu yn ystod mis Hydref i bron i 900.

Mae 47 o bobol â choronafeirws hefyd yn derbyn gofal critigol mewn ysbytai yng Nghymru.

“Mae [y clo dros dro] yn sioc fer, sydyn i’r feirws i droi’r cloc yn ôl ac i sicrhau nad yw ein Gwasanaeth Iechyd yn cael ei lethu yn ystod yr wythnosau nesaf,” meddai Mark Drakeford.

“Os ydym yn mynd i fod yn llwyddiannus ac arafu lledaeniad yr haint, mae’n rhaid i ni leihau cyswllt rhwng pobol lle bynnag y bo modd.

“Y cyngor clir yw bod angen i ni weithredu ar frys nawr oherwydd bod y feirws yn symud yn gyflym.”

O dan y mesurau, a fydd yn para 17 diwrnod tan 9 Tachwedd, gofynnir i bobol aros gartref a gadael am nifer cyfyngedig o resymau yn unig, gan gynnwys ymarfer corff, prynu cyflenwadau hanfodol, neu geisio neu ddarparu gofal.

“Dim ond y dechrau yw hyn” – pryder bydd rhagor o gloeon i ddod

Mae Paul Davies, Arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, yn gweld bai ar Lywodraeth Cymru.

“Unwaith eto, mae’n amlwg nad oes gan Lywodraeth Cymru strategaeth i adael y cyfnod clo,” meddai.

“Mae’r Prif Weinidog yn rhoi Cymru gyfan dan glo heb gyhoeddi’r data llawn i gyfiawnhau’r dewis, na chyhoeddi’r hyn y maent yn gobeithio ei gyflawni yn ystod y clo.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru roi gobaith ac eglurder i ni o beth bydd y clo yn ei gyflawni a sut fydd bywyd ar ôl y clo cenedlaethol.

“Yn hytrach na gorfodi’r clo cenedlaethol a niweidio adferiad busnesau mewn ardaloedd ag achosion isel, dylai Llywodraeth Cymru wneud mwy i wneud yn siŵr bod ardaloedd sydd dan glo lleol yn barod, lle mae achosion yn codi, yn cael effaith a chyflwyno cloeon lleol eraill ble mae angen.

“Mae pobol yn pryderu mai dim ond y dechrau yw hyn, a bydd rhagor o gloeon dros y misoedd nesaf.”

Siopau – “Dryswch yn rhemp ar hyd a lled Cymru”

Mae’r Ceidwadwyr hefyd wedi galw am eglurder ar fyrder ynghylch pa eitemau sy’n cael eu hystyried yn hanfodol mewn siopau.

Dywedodd Darren Millar, Llefarydd Coronafeirws y Ceidwdwyr: “Gyda dim ond oriau i fynd nes i’r clo ledled Cymru ddechrau, mae dryswch yn rhemp ar hyd a lled Cymru.

“Nid oes gan archfarchnadoedd, siopau cyfleustra a siopau eraill unrhyw syniad pa nwyddau y mae Llywodraeth Lafur Cymru yn eu ystyried yn rhai nad ydynt yn hanfodol fel y gallant beidio eu gwerthu.”

Ychwanegodd Mr Millar: “Mae gwneud diktats munud olaf yn anghyfrifol; rhaid i weinidogion gyhoeddi canllawiau ar unwaith fel bod busnesau a’r cyhoedd yn gwybod ble maent yn sefyll.”

“Nid dyma’r amser i bori o amgylch archfarchnadoedd”

Ond ateb Mr Drakeford yw bod atal archfarchnadoedd rhag gwerthu cynnyrch nad yw’n hanfodol yn “fater syml o degwch”.

Dywedodd Mr Drakeford: “Rydym yn ei gwneud yn ofynnol i gannoedd o fusnesau bach gau ar y stryd fawr ledled Cymru.

“Ni allwn wneud hynny ac yna ganiatáu i archfarchnadoedd werthu nwyddau na all y bobl hynny eu gwerthu.

“Ac rydym yn ceisio lleihau’r amser y mae pobl yn ei dreulio allan o’u cartrefi yn ystod y cyfnod hwn o bythefnos.

“Nid dyma’r amser i bori o amgylch archfarchnadoedd sy’n chwilio am nwyddau nad ydynt yn hanfodol.”