Mae cath o Abertawe wedi dychwelyd adref i’w chartref gwreiddiol wedi wyth mlynedd ar goll, ar ôl cael ei hachub gan yr RSPCA.
Roedd Mo wedi derbyn gofal da gan berchennog dros dro, cyn iddo farw.
Bu cymydog y perchennog dros dro yn edrych ar ôl Mo, cyn cysylltu â’r RSPCA am gymorth.
Ac fe gafodd swyddog achub anifeiliaid yr RSPCA, Paula Milton, sioc o ddarganfod bod gan Mo microsglodyn gyda manylion ei pherchnogion gwreiddiol – roedd y gath wedi bod i ffwrdd o’i chartref go-iawn ers 2012.
“Mae’n wych gallu dychwelyd Mo yn ôl i’w theulu tua wyth mlynedd yn ddiweddarach. Mae angen newyddion da arnom i gyd ar hyn o bryd – ac mae’r stori anhygoel hon yn ein hatgoffa am bŵer anhygoel microsglodynnu,” meddai Paula Milton.
“Gall microsglodyn bach wneud gwahaniaeth enfawr. Mae Mo yn enghraifft wych o sut y gellir dychwelyd anifeiliaid anwes adref, flynyddoedd yn ddiweddarach.
“Dyma un o fy achosion gorau erioed fel achubwr RSPCA.”
“Anhygoel ei gael yn ôl”
Yn wreiddiol fe gafodd Mo ei mabwysiadu gan deulu Izzy Harris ddegawd yn ôl, pan oedd hi’n gwirfoddoli yng Nghanolfan Anifeiliaid Llys Nini’r RSPCA.
Ac mae wrth ei bodd yn cael ei chroesawu i’w haelwyd eto am yr ail dro.
“A dweud y gwir, cawsom gymaint o sioc. Rydych chi’n clywed y straeon fel hyn am anifeiliaid anwes yn cael eu ffeindio flynyddoedd yn ddiweddarach – ond dydych chi ddim yn disgwyl iddo ddigwydd,” meddai Izzy Harris
“Mae’n anhygoel ei gael yn ôl, ac yn braf iawn gwybod bod cymaint o bobl glên yn barod i helpu anifeiliaid, ac i glywed bod Mo wedi bod yn ddiogel dros yr holl flynyddoedd.”