Mae trigolion Powys yn cael eu hannog i wneud yn siŵr nad yw eu pwmpenni yn cael eu taflu gyda’r sbwriel arferol, ond gyda’r gwastraff bwyd y mae modd ei ailgylchu.
Hefyd, mae’r cyngor am i drigolion ddefnyddio perfedd y bwmpen i wneud cawl, tarten neu lasagne – yn hytrach na’i daflu fel gwastraff.
Ar draws Prydain mae 25% o’r holl bwmpenni sy’n cael eu prynu adeg Calan Gaeaf yn cael eu taflu gyda’r sbwriel, sy’n golygu fod 18,000 o dunelli o bwmpenni’n yn cael eu gwastraffu.
Byddai hynny’n ddigon i bawb yng ngwledydd Prydain fwynhau powlen flasus o gawl pwmpen.
Ac ym Mhowys, mae pobol yn gwastraffu 75 o dunelli o bwmpenni, gan eu defnyddio fel addurn yn unig – a pheidio bwyta’r canol.
Cawl, tarten, lasagne
Mae Cyngor Powys yn annog trigolion i ddefnyddio tu fewn y pwmpenni’n i wneud cawl, tarten neu lasagne.
“Mae’r rhan fwyaf o bobl ym Mhowys yn wych am ailgylchu eu gwastraff bwyd bob wythnos. Felly eleni, rydym yn gobeithio’n fawr y byddwch yn parhau â’r gwaith da ac yn rhoi unrhyw bwmpen sydd dros ben yn syth yn y cadi gwastraff bwyd,” meddai’r Aelod Cabinet ar Wastraff ac Ailgylchu, y Cynghorydd Heulwen Hulme.
“Mae rhai pwmpenni’n eithaf mawr, felly gallwch eu gadael wrth ochr y cadi bwyd. Fe wnawn eu casglu a gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu hailgylchu gyda gweddill gwastraff bwyd y sir.
“Mae’n ddiddorol gwybod bod modd creu digon o ynni gwyrdd i bweru cartref cyffredin am flwyddyn gyda deg tunnell o wastraff bwyd sy’n cael ei ailgylchu. Dyna ni ar ein ffordd wedyn i gefnogi ymgyrch Cymru i greu mwy o ynni gwyrdd trwy waith treulio anaerobig.
“Felly cofiwch, ar ôl bwyta gymaint ag y gallwch o’r bwmpen, a chael hwyl yn gwneud lanterni brawychus, rhowch y gweddillion yn y bin bwyd a gwneud eich rhan i greu dyfodol mwy glân a gwyrdd.”