Fe gafodd dau Gymro ifanc eu galw i garfan y Barbariaid oedd i fod i herio Lloegr ddydd Sul, ar ôl i chwaraewyr eraill fynd yn groes i’r rheolau.

Cadarnhaodd Gleision Caerdydd fod Ioan Davies a Max Llewellyn, mab Gareth Llewellyn a ennillodd 92 cap i Gymru, wedi eu galw i’r garfan.

Daeth hyn ar ôl i 12 o chwaraewyr y Barbariaid dorri rheolau Covid-19 y garfan a gadael y gwesty i fynd am bryd o fwyd.

Ymhlith y 12 roedd Richard Wigglesworth, Sean Maitland a chyn-gapten Lloegr, Chris Robshaw.

Ond mae’r ornest wedi gorfod cael ei gohirio, ac ni fydd y Barbariaid yn wynebu Lloegr yn Twickenham ddydd Sul.

‘Chwerthinllyd o dwp’

“Rwy’n siŵr eu bod nhw’n teimlo’n hynod o dwp a bod cywilydd mawr ganddynt”, meddai cyn-hyfforddwr Lloegr Clive Woodward, yn trafod y 12 aeth yn groes i’r rheolau ar orsaf radio talkSport.

“Mae bob un wedi bod yn chwerthinllyd o dwp.

“Mae’n cael ei alw’n swigen am reswm. Aeth rhai o’r chwaraewyr allan, wnaeth rhai ddim. Dilynodd rhai chwaraewyr y rheolau, ac mae rhai heb wneud hynny, sy’n gwneud yr holl beth yn waeth, os rywbeth.

“Mae gan rygbi broblem wirioneddol o ran ei chyllid yn sgil covid, does dim amheuaeth y bydd hyn yn effeithio ar drafodaethau  gyda’r Llywodraeth.”