Bydd Cymru yn croesawu’r Unol Daleithiau i Stadiwm Liberty, yn hytrach na Stadiwm Dinas Caerdydd, ar gyfer gêm gyfeillgar ar Dachwedd 12, gyda’r gic gyntaf am 7:45 y nos.

Roedd y gêm i fod i gael ei chynnal ym mis Mawrth, ond bu’n rhaid ei gohirio yn sgil pandemig y coronafeirws.

Dyma fydd yr ail waith i’r ddwy wlad chwarae yn erbyn ei gilydd, a’r tro cyntaf yng Nghymru.

Roedd hynny yn 2003, a cholli o 2-0 oedd hanes dynion Mark Hughes yn Stadiwm Spartan, San Jose.

Cynghrair y Cenhedloedd

Dridiau wedi’r ornest yn erbyn yr Unol Daleithiau, bydd Cymru’n herio Gweriniaeth Iwerddon yn Stadiwm Dinas Caerdydd yng Nghynghrair y Cenhedloedd ar Dachwedd 15 am bump y p’nawn.

Yna, bydd Cymru’n gorffen ymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd yn erbyn y Ffindir ar Dachwedd 18 am 7:45 y nos.

Hyd yma, mae Cymru ar dop ei grŵp yng Nghynghrair y Cenhedloedd, ar ôl dwy fuddugoliaeth ac un gêm gyfartal.

Dyw’r Ffindir ddim ond un pwynt y tu ôl i Gymru, a gallai’r gêm yng Nghaerdydd ar Dachwedd 18 fod yn dyngedfennol.

Byddai ennill y grŵp yn sicrhau safle yng ngemau ail gyfle Cwpan y Byd 2022, pe bai Cymru ddim yn ennill lle yn y gystadleuaeth drwy’r drefn arferol.