Mae gêm Chwe Gwlad Merched Cymru yn erbyn yr Alban yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sul wedi ei chanslo oherwydd Covid-19.

Bu’n rhaid i bedwar chwaraewr o’r Alban dynnu’n ôl ar ôl dod i gysylltiad â chwaraewyr o Ffrainc, sydd wedi profi’n bositif, yn ystod eu gêm y penwythnos diwethaf.

Bellach mae aelod arall o garfan yr Alban hefyd wedi profi’n bositif am y coronafeirws.

Dyma’r ail dro i’r gêm gael ei gohirio eleni oherwydd Covid-19 – yn wreiddiol roedd yr ornest i fod i gael ei chwarae ym mis Mawrth.

Mae gêm merched Ffrainc yn erbyn Iwerddon hefyd wedi’i gohirio.

Anymarferol

“Mae’r datblygiadau hyn wedi ei gwneud yn anymarferol i’r Alban chwarae’r gêm yn erbyn Cymru,” meddai trefnwyr y Chwe Gwlad mewn datganiad.

“Bydd Rygbi’r Chwe Gwlad yn ceisio aildrefnu’r ddwy gêm yn ddiweddarach a bydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi maes o law.”

Ychwanegodd Undeb Rygbi Cymru: “Mae’n ddealladwy bod chwaraewyr a rheolwyr Cymru yn siomedig gyda’r gohiriad, ond rydym yn deall ac yn dymuno gwellhad buan i bawb sydd wedi eu heffeithio.

“Edrychwn ymlaen at aildrefnu’r gêm cyn gynted â phosibl a chroesawu’r Alban i Gymru.”

Dywedodd Rygbi’r Alban y byddai’r Undeb yn parhau i fonitro’r sefyllfa ac yn cydweithio gyda Llywodraeth yr Alban a’r byrddau iechyd.