Mae aelodau Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam wedi derbyn pecynnau pleidleisio yn manylu ar gamau nesaf cais i brynu’r clwb gan ddau o sêr Hollywood, Rob Mcelhenney a Ryan Reynolds.

Yn swyddogol, mae’r cais yn cael ei wneud gan RR McReynolds Company LLC, cwmni mae’r ddau wedi sefydlu.

Mae Ryan Reynolds yn fwyaf adnabyddus am serennu yn y ffilmiau Deadpool, tra bod Rob McElhenney yn gyfrifol am greu’r rhaglen gomedi It’s Always Sunny in Philadelphia.

Noson Gyflwyno

Cyn y bleidlais ar ddydd Llun (Tachwedd 9) bydd cyfarfod zoom yn cael ei gynnal ddydd Sul (Tachwedd 8) at y dibenion canlynol:

  • Trafod y cynnig a’r penderfyniadau sydd angen eu gwneud i gymeradwyo’r cynnig.
  • Trafod ac ymgynghori â’r aelodau ar welliannau sy’n cael eu nodi yn y cynnig.
  • Galluogi aelodau i fynegi barn ar y cynnig.

Yn y cyfarfod, bydd cyflwyniad gan Rob McElhenney a Ryan Reynolds, lle byddan nhw’n amlinellu eu gweledigaeth ar gyfer y clwb cyn cynnal sesiwn cwestiynau ac atebion.

Pleidleisio

Bydd y pleidleisio ar agor rhwng dydd Llun (Tachwedd 9) a dydd Sul (Tachwedd 15), gyda’r canlyniad yn cael ei gyhoeddi’r diwrnod canlynol.

Er mwyn i’r cynnig gael ei gymeradwyo, rhaid i 75% o’r aelodau bleidleisio o blaid.

Os bydd y cynnig yn cael ei gymeradwyo, bydd yna gamau terfynol y bydd yn rhaid eu dilyn yn y broses feddiannu, cyn i RR McReynolds Company LLC gymryd rheolaeth o’r clwb.

Mae Ryan Reynolds a Rob Mcelhenney wedi ymrwymo i fuddsoddi £2m yn y clwb yn syth ar ôl cymryd rheolaeth.