Mae gêm Wrecsam yn erbyn Sutton United wedi ei gohirio ar ôl i bum chwaraewr brofi’n bositif am y coronafeirws.

Cadarnhaodd y clwb fod y gêm yfory, dydd Sadwrn (Hydref 31), wedi’i gohirio a bod yr holl chwaraewyr a staff a deithiodd i gêm Gwpan yr FA yn erbyn Solihull Moors ddydd Sadwrn diwethaf (Hydref 24) bellach yn hunan-ynysu.

Collodd Wrecsam y gêm honno o 4-0.

Bydd gêm nesaf Wrecsam oddi cartref yn erbyn Weymouth ar Dachwedd 14.

Mewn datganiad, dywedodd y clwb: “Gall Wrecsam gadarnhau bod cyfanswm o bum chwaraewr wedi profi’n bositif am Covid-19.

“O ganlyniad i hyn, mae Swyddog Meddygol Covid y clwb a Swyddog Meddygol Covid y Gynghrair Genedlaethol wedi cynnal trafodaethau.

“Eu hargymhelliad yw y dylai’r holl chwaraewyr a staff a deithiodd i Solihull Moors ddydd Sadwrn diwethaf fod yn hunan-ynysu erbyn hyn.

“Mae hyn yn golygu y bydd ein gêm yn erbyn Sutton United yn cael ei gohirio tan ddyddiad diweddarach, a gan nad oes gêm y penwythnos canlynol, bydd ein gêm nesaf oddi gartref yn erbyn Weymouth ddydd Sadwrn, Tachwedd 14.”